Alun Davies
Mae’r Gweinidog dros Gyfoeth Naturiol Alun Davies wedi dweud wrth golwg360 nad yw’n ymwybodol o unrhyw gymuned yng Nghymru sydd wedi mynegi diddordeb mewn rhoi cartref i wastraff niwclear hyd yn hyn.

Mae delio â gwastraff niwclear yn faes sydd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Fe gadarnhaodd Alun Davies mai polisi llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, a pholisi CoRWM – y pwyllgor sy’n gyfrifol am y maes – oedd peidio ag ystyried safle ar gyfer claddfa gwastraff nes i gymuned gynnig ei hun.

“Ar hyn o bryd dydw i ddim yn gwybod am unrhyw gymuned yng Nghymru sy’n gwneud hynny, ac felly dyw’r cwestiwn ddim wedi cael ei godi naill ai gan CoRWM, Llywodraeth y Deyrnas Unedig na Llywodraeth Cymru,” meddai Alun Davies.

Chwilio am safle

Mae CoRWM wedi nodi mai eu prif waith yn ystod y blynyddoedd nesa’ yw’r broses o ddod o hyd i safle i gladdu gwastraff niwclear dwys.

Mae Llywodraeth Prydain o blaid claddu dan ddaear ond ar hyn o bryd mae polisi Llywodraeth Cymru’n dweud nad ydyn nhw’n cefnogi na gwrthwynebu hynny, nac yn cefnogi unrhyw ddewis arall chwaith.

Ond, ddydd Mercher fe lansiwyd ymgynghoriad i weld a ddylen nhw newid y safbwynt hwnnw ac fe fu golwg360 yn holi’r Gweinidog tros Gyfoeth Naturiol am hynny.

Fe fynnodd Alun Davies nad oes gan yr ymgynghoriad hwnnw unrhyw beth i’w wneud â gwaith CoRWM, corff Llywodraeth San Steffan sydd yn gyfrifol am ddelio â gwastraff ymbelydrol Prydain.

Gofynion

Gofynion yr Undeb Ewropeaidd oedd yn gyfrifol am benderfyniad Llywodraeth Cymru i lansio’r ymgynghoriad, yn ôl Alun Davies.

“Mae gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni’n fodlon â’r polisi sydd gyda ni,” esboniodd Alun Davies wrth golwg360. “Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn mynnu fod polisi gennym ni, a dyna pam rydyn ni’n gwneud o nawr.

“Mae gennym ni reserved position ar hyn [claddu gwastraff ymbelydrol]. Dyna’r polisi presennol, ac ar hyn o bryd does dim bwriad neu gynnig i newid y polisi.

“Rydym ni eisiau ystyried a fydd angen newid y polisi yn y dyfodol, felly rydym ni wedi penderfynu gwneud hyn mewn ffordd agored, dryloyw, cyhoeddus.

“Bydd pobol yn cael cyfle i fynegi barn a chynnig syniadau i’r broses o wneud penderfyniadau. Dw i’n meddwl bod pobl eisiau gweld llywodraeth Cymru’n gweithredu mewn ffordd cwbl agored.”

“Dim sôn am wastraff niwclear”

Ond fe fynnodd y Gweinidog bod pryderon diweddar ynglŷn â’r posibiliad y gallai safle gladdu gwastraff niwclear ddod i Gymru yn fater hollol ar wahân i’r ymgynghoriad.

“Dydyn ni ddim yn sôn am safle gwastraff niwclear yng Nghymru, rydyn ni’n sôn am y polisi,” mynnodd Alun Davies. “Mae’n bwysig eich bod chi’n gwahaniaethu’r ddau beth achos mae’r ddau beth yn gwbl wahanol.”