David Cameron
Dim ond y Ceidwadwyr all sicrhau refferendwm ynglŷn â dyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd, meddai’r Prif Weinidog David Cameron, wrth i’r Ceidwadwyr lansio’u hymgyrch ar gyfer etholiadau Ewrop.

Mae’r datganiad yn cael ei weld yn ymdrech arall i dynnu’r gwynt o hwyliau’r blaid wrth-Ewropeaidd, UKIP, sy’n curo’r Torïaid yn y polau piniwn.

Mae carfan gref o aelodau seneddol Ceidwadol hefyd yn rhoi pwyslais ar eu harweinydd i gymryd agwedd galetach yn erbyn Ewrop.

‘Fe wna i’

Wrth lansio’r ymgyrch yn swyddogol, mae disgwyl i David Cameron bwysleisio’i record yntau’n gwrthwynebu penderfyniadau o Frwsel.

“Mae eraill yn siarad am warchod buddiannau’r wlad a gwrthsefyll Ewrop,” meddai David Cameron. “Dw i’n gwneud hynny, dro ar ôl tro – yn aml gyda gwrthwynebiad ym Mrwsel ac ansicrwydd a yw hynny’n bosib gartref.

“Mae gen i record o weithredu – a chredwch chi fi, beth bynnag sydd ei angen, fe wna i sicrhau bod refferendwm mewn/allan yn digwydd. Wnaiff Llafur ddim. All UKIP ddim. Fe fydda’ i.”

Y cefndir

Bydd pobol Cymru a gweddill Prydain yn pleidleisio ar 22 Mai ar gyfer eu Haelodau Seneddol Ewropeaidd am y pum mlynedd nesaf.

Ar hyn o bryd mae’r Ceidwadwyr yn drydydd yn y polau piniwn ar draws gwledydd Prydain, y tu ôl i UKIP a Llafur.

Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi mynnu y bydd ei blaid yn cynnal refferendwm yn 2017 i ofyn a yw Prydain eisiau aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd petai nhw’n ennill yn etholiad cyffredinol flwyddyn nesa’.