Gerry Adams (Llun PA)
Mae gan Heddlu Gogledd Iwerddon tan ddiwedd y dydd heddiw i barhau i holi Llywydd plaid wleidyddol Sinn Fein, Gerry Adams, neu ofyn i farnwr am ragor o amser.

Fe gafodd ei arestio nos Fercher i gael ei holi ar amheuaeth o fod â rhan yn llofruddiaeth gwraig ym Melffast yn 1972 – mae yntau’n gwadu hynny.

Yn y cyfamser, mae merch hyna’r wraig, Jean McConville, wedi dweud ei bod hi’n fodlon enwi’r bobol a oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth – er gwaetha’r peryg o ddialedd.

Yn wahanol i un o’i brodyr, mae Helen McKendry, wedi dweud ei bod yn barod i ddweud pwy oedd rhai o’r 12 ymosodwr a ddaeth i gartre’r teulu a llusgo’u mam oddi yno, gan ei chyhuddo ar gam o roi gwybodaeth i’r awdurdodau.

Y cefndir

Fe gafwyd hyd i gorff Jean McConville ar draeth yn 2003, yn un o’r ‘Diflanedig’ a gafodd eu cipio a’u lladd gan filwyr gweriniaethol yr IRA.

Mae Helen McKendry yn un o’r rhai sy’n credu bod gan Gerry Adams ran yn y llofruddiaeth er ei fod ef ei hun wedi gwadu hynny ar hyd yr amser.

Ac mae Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness o Sinn Fein, wedi cyhuddo’r awdurdodau o weithredu’n dan-din wrth arestio Gerry Adams ychydig cyn yr etholiadau Ewropeaidd.