Mae penaethiaid gwasanaethau tân Cymru wedi rhybuddio pobol i fod yn ofalus yn ystod y dyddiau nesa’ wrth i ddiffoddwyr fynd ar streic.

Maen nhw’n pryderu’n arbennig oherwydd yr addewid o dywydd braf tros benwythnos yr ŵyl banc, gyda’r peryg ychwanegol o danau glaswellt.

Maen nhw’n poeni oherwydd y bydd rhagor o bobol yn gwersylla a chynnau barbeciw ac yn rhybuddio pobol rhag yfed a choginio.

Mae disgwyl llinellau piced y tu allan i nifer o orsafoedd tân Cymru, gyda’r rhai mwya’ ym Merthyr a Chaerdydd.

Y streiciau

Fe fydd undeb y diffoddwyr, yr FBU, yn streicio deirgwaith tros benwythnos y gwyliau, gyda’r cynta’ am bump awr o hanner dydd heddiw.

Mae’r naill ochr yn yr anghydfod yn cyhuddo’r llall o chwalu trafodaethau, gyda’r undeb yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o fethu â gwneud cynnig ynglŷn â chyflog, amodau gwaith a phensiynau.

Maen nhw’n dweud bod cynlluniau’r Llywodraeth yn annheg, gan wneud i ddiffoddwyr weithio’n hwy a thalu rhagor at eu pensiynau.

Ar y llaw arall, roedd llefarydd ar ran yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn cyhuddo’r undeb o adael trafodaethau, gan ddweud bod y cynnig i’r diffoddwyr yn well na’r rhan fwya’ sydd ar gael yn y sector cyhoeddus.

Y rhybudd

Fe fydd gwasanaethau tân Cymru yn cynnig gwasanaeth brys ond yn pwysleisio na fyddan nhw’n gallu ymateb fel arfer i alwadau eraill.

“Bydd angen i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar ymateb i’r digwyddiadau mwya’ difrifol lle mae bywydau ac eiddo dan fygythiad,” meddai Prif Swyddog Tân Cynorthwyol De Cymru, Rod Hammerton.

“Gyda’r rhagolygon tywydd yn edrych yn ffafrio, r’yn ni’n gwybod bod mwy na 90% o danau glaswellt yn ne Cymru’n fwriadol a gall y tanau hyn ledu’n gyflym yn ystod tywydd sych gan roi bywydau ac eiddo mewn peryg difrifol.

“Felly, r’yn ni’n ymbil ar bawb i fod yn synhwyrol.”