Robin McBryde
Mae un o hyfforddwyr rygbi Cymru Robin McBryde a’r Archdderwydd Christine James wedi ychwanegu’u henwau at lythyr agored sy’n galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i wella addysg Gymraeg ail iaith.

Cafodd y llythyr, sydd wedi’i arwyddo gan 18 o addysgwyr a Chymry amlwg, ei gyhoeddi gan Gymdeithas yr Iaith heddiw yn rhan o’u galwad i gael  holl ddisgyblion Cymru feistroli’r Gymraeg.

Maen nhw’n galw ar Carwyn Jones i weithredu ar unwaith i sicrhau hynny, gan fynegi siom fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gadael ystyriaeth o ddiwygio ‘Cymraeg Ail Iaith’ am flwyddyn.

Robin McBryde hefyd yw Ceidwad y Cledd i’r Orsedd yn yr Eisteddfod ac, ymysg llofnodwyr eraill y llythyr mae’r Archdderwydd Christine James a’r Prifardd Mererid Hopwood, cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Meirion Prys Jones, yr Aelod Cynulliad Llŷr Huws Gruffydd, a’r addysgwyr a thiwtoriaid iaith amlwg, Ioan Talfryn, Cefin Campbell, Simon Brooks a Nia Royles.

6 pheth

Mae’r alwad yn un o ‘6 pheth’ y mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i Lywodraeth Cymru eu gwneud mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad yn 2011, ac fe lofnododd Ffred Ffransis y llythyr ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r adroddiad a gomisiynodd y llywodraeth ei hun yn cydnabod mai methiant yw dysgu Cymraeg fel ail iaith, a gallaf dystio i hyn fel rhywun wnaeth orfod dysgu’r iaith y ffordd galed,” meddai Ffred Ffransis.

“Mae’r Llywodraeth yng nghanol Cam 1 eu Hadolygiad Cwricwlwm yn ymdrin â sgiliau cyfathrebu a llythrennedd, ond dyn nhw ddim yn ystyried y dylai holl ddisgyblion Cymru feithrin sgiliau cyfathrebu a llythrennedd yn y ddwy iaith.

“Dyma ddangos eto ddiffyg ymwybyddiaeth y llywodraeth a’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg yn ôl canlyniadau’r Cyfrifiad.”