Golygfa o'r gwesty o'i wefan
Mae gwesty moethus yn Neganwy wedi cael ei roi ar werth am £7 miliwn ar ôl i’r prif gwmni sy’n berchen arno fynd i drafferthion ariannol.

Mae 70 o bobol yn gweithio yng ngwesty a spa Cei Deganwy a agaorodd ei ddrysau yn 2006 ar gost o tua £12 miliwn.

Cafodd cwmni Albemarle Leisure LLP ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ym mis Chwefror ond mae llefarydd ar ran y gweinyddwyr yn dweud nad yw Deganwy Quay Limited, sef y cwmni sy’n cadw’r gwesty, mewn trafferthion ariannol.

Bydd y gwesty felly yn parhau yn agored fel arfer nes y bydd perchnogion newydd yn ei brynu.

Mae’r gwesty yn ar lan aber afon Conwy ac mae’n rhan o ddatblygiad gwerth £43 miliwn i wella’r ardal rhwng y briffordd am Llandudno a’r môr.

“Mae Albemarle Leisure LLP wedi bod yn ceisio cael gwared ar ddyledion y cwmni am beth amser, ond bu’n rhaid ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr er mwyn gwarchod asedau’r cwmni,” meddai llefarydd ar ran y gweinyddwyr, PricewaterhouseCoopers.