Bryn Parry Jones
Fe fyddai’n rhaid i Brif Weithredwr Cyngor Sir Benfro wynebu dicter y cyhoedd pe bai’n gwrthod talu arian anghyfreithlon yn ôl, meddai’r cynghorydd y tu cefn i’r cynnig i ofyn iddo dalu.

Ac fe ddywedodd Jacob Williams ei fod  yn credu y dylai Bryn Parry Jones roi’r gorau i’w swydd ar ôl iddo fod yn rhan o broses o roi taliadau iddo’i hun – yn groes i’r gyfraith, yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru.

Ddoe fe bleidleisiodd Cyngor Sir Benfro o blaid cynnig yn gofyn i’r Prif Weithredwr ac uchel swyddog arall ad-dalu’r arian yr oedden nhw wedi ei gael.

‘Ffiaidd’

“Os ydyn nhw’n gwrthod talu’r arian yn ôl yna byddai’n rhaid iddyn nhw wynebu’r cyhoedd,” meddai Jacob Williams, y cynghorydd o Saundersfoot sydd wedi bod ymhlith beirniaid mwya’r gweithredu anghyfreithlon gan arweinwyr y Cyngor.

“Mae pobol yn gwybod yn iawn beth sydd wedi digwydd ac maen nhw’n meddwl ei fod yn ffiaidd.”

“Pe bai gan Bryn Parry Jones unrhyw fath o barch synnwyr o gyfrifoldeb, fe fyddai’n gwneud datganiad ac yn ymddiheuro ond dyw e ddim i’w weld yn edifar am yr hyn wnaeth o.

“Fe wnes i gefnogi’r bleidlais diffyg hyder yn ei erbyn ac fe fuaswn i’n cefnogi pe bai o’n dewis gadael y swydd.”

Ymateb

Fe benderfynodd y cynghorwyr ofyn i’r uchel swyddogion, yn hytrach na mynnu, oherwydd y costau tebygol.

Fe fydd ymateb y Prif Weithredwr a’r swyddog arall yn cael ei gyflwyno i gyfarfod llawn o’r cyngor ym mis Gorffennaf.