Llun y gaer o'r awyr (Llun: Equinox PR)
Fe agorwyd Canolfan Ymwelwyr newydd Segontium am y tro cyntaf heddiw ar ôl tair blynedd o waith cynllunio ac adeiladu ar safle’r hen gaer Rufeinig yng Nghaernarfon.
Yn y gorffennol, mae beirniadaeth wedi bod am y diffyg adnoddau a’r diffyg sylw i gaer fawr orllewinol fwya’r Ymerodraeth Rufeinig.
Cafodd trigolion y dref gyfle i ymweld â’r ganolfan am y tro cyntaf heddiw, gyda’r corff hanesyddol Cadw’n gobeithio y bydd yn gyfle i bobol ddysgu mwy am hanes y caer nodweddiadol ac yn denu archeolegwyr lleol.
Arddangosfeydd
Bydd arddangosfeydd a gwybodaeth i ymwelwyr yn ogystal â digwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal yn y ganolfan, sydd yn bartneriaeth rhwng Cadw, Cymunedau’n Gyntaf a grwpiau cymdeithasol lleol.
Bu cynghorydd tref Caernarfon Anita Kirk yn gweithio’n agos gyda Cadw ar y prosiect, ac fe ddywedodd yn y lansiad heddiw y byddai’r ganolfan yn lleoliad i’r gymuned gyfan.
“Mae’n lle gwych, ymarferol sydd wedi cael ei ddatblygu yn ôl anghenion y gymuned yma,” meddai Anita Kirk.
“Mae’r prosiect wedi creu cysylltiadau cryfach gyda’r gymuned leol, gwella ymwybyddiaeth o Segontium a’i bwysigrwydd hanesyddol a hefyd ei gwneud yn berthnasol i fywydau pobl yn yr ardal o gwmpas y safle.”
Hyfforddi
Yn ddiweddar fe gynhaliodd Cadw sesiynau hyfforddi i 30 o bobol ifanc yng Nghanolfan Cae’r Gors gyda’r bwriad o gryfhau eu sgiliau cyfathrebu a’u gwybodaeth hanesyddol – sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw wrth roi teithiau tywys o’r safleoedd.
Bydd nifer o ddigwyddiadau eraill hefyd yn cael eu cynnal dros yr haf gan gynnwys gŵyl ar 19-20 Gorffennaf i nodi ymosodiad y Rhufeiniaid, gydag ymladdwyr gladiator, gwersi coginio a saethu Rhufeinaidd a chladdfa ddirgel yno.
Cafodd caer Segontiwm ei hadeiladu gan y Rhufeiniaid ar ôl iddyn nhw goncro Cymru ac mae’r safle’n deillio o 77OC, gyda chyfeiriad at ‘Gaer Aber Seint’, ym Mreuddwyd Macsen Wledig, un o chwedlau cynnar y Mabinogi.