Cynigion y Blaid Lafur i helpu tenantiaid tai preifat sydd wedi mynd â’r sylw wrth iddyn nhw gyhoeddi eu maniffesto ar gyfer Etholiadau Ewrop.

Roedd y bwriad i osod lefel ucha’ ar y rhent i denantiaid wrth galon ‘cytundeb costau byw’ a gafodd ei lansio gan yr arweinydd Llafur, Ed Miliband.

Yn ôl y Ceidwadwyr, mae’r cynlluniau’n chwalu eisoes wrth i gorff y Tirfesurwyr Siartredig wrthod y syniad o uchafswm rhent.

Roedd Llefarydd ar ran Ffederasiwn Eiddo Prydain hefyd yn dweud y byddai uchafswm yn atal busnesau rhag buddsoddi yn y maes.

Y cynigion

Mae Llafur eisiau deddf i osod uchafswm rent ac i gael gwared ar hawl landlordiaid i godi ‘ffïoedd gosod’ o hyd at £350.

Fe fyddai tenantiaid hefyd yn cael addewid o gytundeb tair blynedd os na fydden nhw’n camymddwyn yn y chwe mis cynta’ ac fe fyddai angen “rhesymau da” cyn y gallai landlord derfynu tenantiaeth mewn dim ond dau fis fel ar hyn o bryd.

“Gyda theuluoedd mewn peryg o gael eu taflu allan gyda rhybudd o ddeufis am ddim rheswm, gyda rhai hyd yn oed yn gorfod derbyn cynnydd mawr yn eu rhent neu gael eu taflu allan, mae ansicrwydd ac ansefydlogrwydd y farchnad rhenti preifat yn ddrwg i denantiaid, yn ddrwg i deuluoedd a hyd yn oed i landlordiaid,” meddai Ed Miliband.