Y tapestri yn Abergwaun
Iolo Cheung fu yng ngogledd Sir Benfro i weld beth oedd y pynciau llosg lleol …
Trafodaeth am farina newydd, agwedd y cyngor sir tuag at iaith, a hanes lliwgar yr ardal oedd rhai o’r pynciau llosg wrth i ni fynd lawr i Abergwaun yn Sir Benfro ar ein taith ddiweddaraf o dan faner Golwg ar Grwydr.
Y syniad ydi’n bod ni’n mynd allan i wahanol lefydd yng Nghymru a sgwrsio â phobl leol, er mwyn clywed beth ydi’r pynciau llosg a’r straeon sydd yn bwysig yn eu hardal nhw.
Ar ôl ymweld â Hwlffordd y tro diwethaf fe aeth criw Golwg i ogledd y sir ac i ardal Abergwaun y tro hwn, i gyfarfod criw o ddysgwyr Cymraeg yn Ocean’s Lab, Wdig a chlywed beth oedd y testunau trafod lleol …
Marina mawr
Un o’r pethau sydd yn amlwg wedi denu sylw’r trigolion lleol yw’r marina newydd arfaethedig yn Abergwaun a Wdig, reit lawr wrth y porthladd ble aiff y fferis i Iwerddon.
Fe fynegodd y bobl y buon ni’n siarad â nhw bryder na fyddai’r marina’n dod a’r manteision economaidd yr oedd pobl yn ei ddisgwyl i’r ardal, ac na fyddai llawer o swyddi parhaol yn cael eu creu unwaith y byddai’r safle wedi cael ei hadeiladu.
Bydd y datblygiad yn cynnwys lle i 450 o gychod a 253 o fflatiau – gan gynnwys lle hefyd i ehangu porthladd Stena Line Abergwaun.
Cyd-ddigwyddiad bach difyr – datblygwyr y marina, Conygar, yw’r un cwmni sydd yn gyfrifol am y cynllun i godi dros 700 o dai ger Hwlffordd a gafodd sylw Golwg ar Grwydr yr wythnos diwethaf.
Mae’r cwmni hefyd yn gweithio ar ddatblygiadau tebyg yn Noc Penfro a Chaergybi fel mae’n digwydd.
Beth bynnag, pryder trigolion Abergwaun oedd na fyddai yna lawer o bobl leol yn symud i’r fflatiau moethus, ac na fyddan nhw’n gwario rhyw lawer yn economi’r ardal.
Ond roedd cydnabyddiaeth hefyd fod twristiaeth yn bwysig iawn i Sir Benfro, gyda niferoedd wedi heidio yno dros wyliau’r Pasg yn ddiweddar.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Stena Line wrtha’i eu bod nhw’n gweithio’n agos â Conygar ar y cynlluniau a’u bod yn awyddus iawn i weld y datblygiad yn dwyn ffrwyth.
Byddai’r datblygiad yn yr harbwr hefyd yn golygu potensial i’r porthladd ehangu, meddai’r llefarydd – ond ni chafwyd ymateb naill ffordd na’r llall i’r awgrym y gallai gwasanaethau Stena Line gael eu cwtogi’n bellach pe na bai’r marina’n dod.
Ac roedd y cynghorydd lleol yn hollol frwdfrydig o blaid y syniad, gan ddweud wrtha’i fod y marina’n hanfodol er mwyn adfywio’r ardal, a’i fod wedi cael ei ethol ddwy flynedd yn ôl ar ôl datgan cefnogaeth gref i’r cynllun.
Roedd y bobl y buon ni’n siarad â nhw yn Abergwaun hefyd yn poeni am rai o’r un pynciau a chriw Hwlffordd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd yr ardal a’r angen i deithio’n bell i’r ysbyty.
Ac roedden nhw hefyd yn anhapus ag agwedd Cyngor Sir Penfro tuag at y Gymraeg, yn enwedig ym maes iechyd – gan gyfeirio at y stori dorrodd golwg360 yn gynharach eleni ynglŷn â swydd gafodd ei hysbysebu ble nad oedd y gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.
Beca a Jemima
Fe awgrymwyd hefyd y byddai’n dda cael sylw i rai o ddigwyddiadau hanesyddol yr ardal, a’i bod yn bwysig tu hwnt i bobl sir Benfro fod yn ymwybodol o rhai o’r cymeriadau a’r hanesion hynny.
Eleni fe fydd dathliadau 176 mlynedd ers i derfysgoedd Merched Beca ddechrau, gyda llawer o ddigwyddiadau’n cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn i nodi’r achlysur.
Mae hefyd wrth gwrs yn flwyddyn ble bydd Radio Beca’n gobeithio lansio ar draws siroedd Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin, ac maen nhw wrthi’n ddiwyd yn casglu cyfranwyr at y fenter ar hyn o bryd.
Awgrymodd un ddynes fod pobl Cymru’n gallu bod yn “araf iawn i sylweddoli ein treftadaeth ieithyddol a hanesyddol”, ac y byddai rhagor o ddigwyddiadau’n tynnu sylw i hanes yr ardal yn gallu bod yn hwb i dwristiaeth.
Digwyddiad hanesyddol arall sydd wedi cael ei nodi’n ddiweddar yn yr ardal yw ymosodiad aflwyddiannus y Ffrancwyr ar Abergwaun yn 1797 a stori Jemima Niclas, y ddynes leol a lwyddodd i ddal 12 o’r Ffrancwyr gyda phicell yn unig.
Mae’r digwyddiadau wedi cael eu cofnodi ar dapestri gafodd ei greu gan 77 o drigolion lleol ac sydd nawr yn cael ei arddangos yn Neuadd y Dref, Abergwaun.
Mae’n werth i chi daro draw i’w weld, yn sicr – yn ogystal â’r tapestri hyfryd mae rhai o’r arteffactau sydd yn gysylltiedig â’r ymosodiad ar ddangos.
Ac ar ein ffordd yn ôl o Abergwaun fe daron ni heibio Crymych, ble’r oedd ein Tîm yr Wythnos diweddaraf ni wrthi’n paratoi ar gyfer ffeinal fawr – fe enillodd tîm ieuenctid y pentref Gwpan Sir Benfro y noson ganlynol!