Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi y bydd hi’n adolygu’r pwerau sydd gan yr heddlu i atal ac archwilio pobol yng Nghymru a Lloegr.
O hyn ymlaen, fe fydd angen i swyddogion basio profion newydd ar sut i stopio ac archwilio rhywun ac fe allen nhw wynebu camau disgyblu os na fydden nhw’n cadw at y canllawiau newydd.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Theresa May fod arolwg wedi canfod y gall 27% o’r achosion archwilio’r llynedd fod wedi bod yn anghyfreithlon.
Ychwanegodd os nad yw nifer yr achosion stopio ac archwilio yn gostwng, fe fydd hi’n ystyried newid y gyfraith.
Camddefnyddio
“Mae o’n bŵer pwysig i’r heddlu, ond os yw’r pŵer yna’n cael ei gamddefnyddio mae o’n wastraff llwyr o amser,” meddai Theresa May.
“Hefyd, pan mae pobol ddiniwed yn cael eu stopio yn ddireswm, mae’n niweidio’r berthynas rhwng yr heddlu a’r cyhoedd.”
Fe wnaeth yr arolwg hefyd ddarganfod fod pobol groenddu a phobol o leiafrifoedd ethnig chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio gan yr heddlu o’i gymharu â phobol croenwyn.
“Does neb yn ennill pan mae’r pwerau yn cael eu defnyddio’n anghywir. Mae’n annheg, yn enwedig i ddynion du ifanc, ac yn niweidio hyder y cyhoedd yn yr heddlu,” ychwanegodd Theresa May.