Mae gweithwyr mewn canolfannau galwadau yn debygol o fod ar gytundebau heb sicrwydd oriau
Mae undebau yn galw am weithredu ar ôl i ymchwil ddangos bod tua 1.4 miliwn o bobol ym Mhrydain mewn swyddi gyda chytundebau sydd heb sicrwydd o leiafswm oriau.

Mae’r arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol wedi dangos bod bron i hanner y cwmnïau twristiaeth, arlwyo ac adrannau bwyd yn defnyddio cytundebau heb oriau, sy’n golygu nad oes gan weithwyr sicrwydd o waith o un wythnos i’r llall.

Merched, pobol o dan 25 oed a’r rhai dros 65 oed oedd y rhai mwyaf tebygol i fod mewn swyddi heb sicrwydd o oriau a’r cwmnïau mawr oedd yn fwyaf tebygol o’u defnyddio.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol  Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), Frances O’Grady, ei bod yn pryderu fod cymaint o bobol ifanc yn arwyddo cytundebau heb oriau, sy’n gallu rhwystro eu gyrfaoedd a’i gwneud yn anodd talu dyledion myfyrwyr yn ôl.

Ac yn ôl Paul Kenny, ysgrifennydd cyffredinol y GMB: “Mae’n rhaid gweithredu i atal cwmnïau rhag cymryd mantais o weithwyr sydd ar gontractau dim oriau.

“Mae pobol yn y swyddi hyn yn ei chael hi’n anodd ofnadwy i gael cytundebau rhent neu credyd ac felly fe ddylen nhw gael yr hawl i weithio lleiafswm o oriau bob wythnos.

Roedd yr arolwg wedi holi 5,000 o gyflogwyr gan ei gwneud yr arolwg fwyaf o’i math.

‘Chwarae teg’

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Fusnesau Prydain: “Mae’r ffigyrau yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer delio hefo cytundebau dim oriau er mwyn gwneud yn siŵr fod pobol yn cael chwarae teg.

“Mae myfyrwyr, pobol oedrannus a phobol sy’n gweithio dwy swydd eisiau contract hyblyg ond rydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn deall beth yn union mae eu cytundebau yn ei olygu os yw’n eu hatal rhag cynyddu eu hincwm.”