Danny Alexander
Mae mwy o dystiolaeth i brofi bodolaeth anghenfil Loch Ness nag o rannau o’r ymgyrch o blaid annibyniaeth i’r Alban, yn ôl Danny Alexander.
Gwnaeth Prif Ysgrifennydd y Trysorlys y sylw yn ystod cyfarfod busnes yng Nghaeredin.
Yn y cyfarfod, dywedodd wrth y gynulleidfa: “Mae un myth Albanaidd na allaf nac a fyddwn i’n gallu ei wrthbrofi o gwbl.
“Mae hi oddeutu 40 troedfedd o hyd, yn swil i gyhoeddusrwydd ac mae hi’n byw yn fy etholaeth, ac os yw unrhyw un ohonoch chi yma heddiw neu eich teuluoedd am ddod i fyny i Loch Ness a threulio penwythnos yn chwilio amdani, yna byddai croeso mawr iawn.
“Yn fras, mae mwy o dystiolaeth o anghenfil Loch Ness nag sydd i brofi nifer o amcangyfrifon a’r honiadau sydd wedi cael eu cyflwyno gan y cenedlaetholwyr i gefnogi eu hachos tros wahanu.”
Yn ystod yr araith, dywedodd fod angen synnwyr digrifwch wrth ymdrin â dadleuon y sawl sydd o blaid annibyniaeth.
Cwestiynodd a fyddai’r Alban yn gallu cefnogi banciau o ystyried maint y sector ariannol yn Yr Alban.
Ac fe daflodd amheuaeth ar y posibilrwydd y gallai’r Alban barhau i ddefnyddio’r bunt pe bai’n annibynnol.
Mae’r refferendwm yn cael ei gynnal ar Fedi 18.