Mae cefnogwr pêl-droed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o daflu banana at chwaraewr Barcelona, Dani Alves yn ystod gêm.

Cadarnhaodd yr heddlu fod dyn 26 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o sarhau rhywun yn hiliol.

Yn ôl adroddiadau yn Sbaen, mae’r dyn sydd wedi cael ei arestio’n un o hyfforddwyr tîm ieuenctid Villareal, ac mae e bellach wedi cael ei ddiswyddo.

Dydy’r clwb ddim wedi cadarnhau na gwadu’r adroddiadau.

Pe bai’n cael ei ganfod yn euog, fe allai wynebu cyfnod o hyd at dair blynedd dan glo.

Mae e eisoes wedi cael ei wahardd o stadiwm El Madrigal yn Villareal am oes.

Mae disgwyl i Gynghrair Sbaen ei gosbi ar ôl i’r dyfarnwr nodi’r digwyddiad yn ei adroddiad swyddogol o’r ornest rhwng Barcelona a Villareal ddydd Sul.

Ar ôl i’r banana gael ei daflu, cafodd ei godi oddi ar y llawr gan Dani Alves a’i hanner bwyta.

Mae pêl-droedwyr wedi datgan eu cefnogaeth i Alves ar wefannau cymdeithasol trwy dynnu llun ohonyn nhw eu hunain yn dal neu’n bwyta banana.

Mae Alves wedi dweud y byddai’n barod i osod llun o’r troseddwr honedig ar y we er mwyn dwyn gwarth arno.

Nid dyma’r tro cyntaf i Alves gael ei sarhau’n hiliol, ac mae nifer o chwaraewyr eraill yn Sbaen wedi cael eu targedu oherwydd lliw eu croen yn ddiweddar.