Rob Ogleby
Mae Wrecsam wedi cyhoeddi rhagor o chwaraewyr fydd yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor siomedig i’r clwb – gan ryddhau’r enwau ar Twitter.
Fe gadarnhaodd y clwb ddoe y bydd David Artell a Joe Anyisah yn gadael yn yr haf, a heddiw fe ychwanegwyd Jay Colbeck, Stephen Wright a Jake Parle i’r rhestr.
Mae’r clwb yn aros i siarad â rhai chwaraewyr gan gynnwys Rob Ogleby, Joe Clarke a Joslain Mayebi.
Bydd y clwb yn cyfarfod ag Ogleby a Clarke fory, tra bod Mayebi ar ei wyliau yn Ffrainc ar hyn o bryd.
Ond mae cytundebau newydd wedi’u cynnig i Mark Carrington, Leon Clowes, Andy Coughlin, Johnny Hunt, Jonathan Royle, Nick Rushton a Steve Tomassen, gyda Tomassen a Clowes eisoes wedi dweud ar lafar eu bod am arwyddo.
Mae cytundeb hefyd wedi cael ei gynnig i Danny Livesey, sydd wedi bod ar fenthyg yn Wrecsam o Carlisle y tymor hwn, ac mae Kevin Thornton wedi cael ei wahodd i ymarfer gyda’r tîm dros yr haf.
Haf o newid
Daw’r newidiadau wrth i’r rheolwr Kevin Wilkin asesu’i garfan ar ddiwedd tymor siomedig i Wrecsam.
Ar ôl ennill Tlws FA Lloegr a chyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle o dan Andy Morell y llynedd mae’r tîm wedi bod yng ngwaelodion y Gyngres y tymor hwn.
Fe adawodd Morrell ei swydd ym mis Chwefror gyda’r tîm yn 13eg yn y tabl, gan adael y tîm yn nwylo Billy Barr dros dro.
Penodwyd Kevin Wilkin i’r swydd yn barhaol fis diwethaf, ac fe orffennodd Wrecsam yn 17fed yn y tabl ar ôl ennill dwy, colli tair, a chael tair gêm gyfartal ers i Wilkin ymuno.
Ac fe gyfaddefodd y rheolwr wrth wefan Wrecsam fod torri’r newyddion i rai o’r chwaraewyr wedi bod yn anodd.
“Dydi o byth yn hawdd ac rydyn ni’n siarad am fywoliaeth pobl yn fan hyn,” meddai Kevin Wilkin.
“Dydi o ddim yn rhywbeth yr ydych chi’n ei wneud ag unrhyw bleser. Dydi pethau heb weithio allan i ni fel tîm a dydi’r bai ddim yn disgyn ar unrhyw unigolion yn benodol. Cyfrifoldeb y grŵp yw’r tymor siomedig rydyn ni wedi’i gael.
“Mae pob un yn y garfan wedi ymateb yn dda i mi drwy gydol y peth a dydi o ddim yn beth hawdd i symud pobl ymlaen.
“Mae’n rhaid ei wneud, mae’n rhan o’r swydd sydd gen i ac mae’n rhaid derbyn hynny. Dwi wir yn dymuno’n dda iddyn nhw yn y dyfodol ac yn gobeithio yr awn nhw ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus yn y dyfodol.”