Daeth cadarnhad mai Gareth Williams yw hyfforddwr newydd tîm saith bob ochr Cymru.
Mae’n disodli Paul John, sydd wedi derbyn swydd gyda thîm hyfforddi rhanbarth y Gleision.
Bu Williams yn hyfforddwr dros dro ers i John gyhoeddi ei ymadawiad fis Rhagfyr diwethaf.
Mae rhaglen ddatblygu’r tîm saith bob ochr yn debygol o gael ei adolygu yn ystod y misoedd nesaf.
Roedd Gareth Williams yn aelod cyson o dîm saith bob ochr Cymru yn ystod ei yrfa, cyn troi at hyfforddi chwe blynedd yn ôl.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd mewn datganiad: “Mae cael y swydd yn barhaol wedi bod yn uchelgais gen i ac rwy’n ddiolchgar i Undeb Rygbi Cymru am fy nghefnogi i yn hynny o beth nawr.
“Mae’n fraint cael y cyfle i symud y rhaglen saith bob ochr yn ei blaen yn ystod dwy rownd olaf y tymor, cyn edrych ymlaen at Gyfres y Byd yr IRB y tymor nesaf.”