Rob McCusker
Bydd Rob McCusker a Kristian Phillips yn parhau i chwarae ar Barc y Scarlets y tymor nesaf ar ôl i’r rhanbarth gyhoeddi bod y ddau wedi arwyddo cytundebau newydd.

Mae’n rhagor o newyddion da i’r Scarlets wrth i’r capten McCusker a’r asgellwr Phillips ymuno â nifer o chwaraewyr sydd wedi penderfynu aros â’r rhanbarth yn y misoedd diwethaf.

Mae sêr Cymru Rhys Priestland a Scott Williams a’r mewnwr addawol Gareth Davies eisoes wedi ymestyn eu cytundebau yn ddiweddar, ac fe fydd Regan King yn ailymuno â’r rhanbarth yn yr haf.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby eu bod yn disgwyl gwneud rhagor o gyhoeddiadau yn y man ynglŷn â’u carfan ar gyfer y tymor nesaf.

“Rydym ni wrth ein bodd fod Rob a Kris yn aros ar gytundebau estynedig ym Mharc y Scarlets er mwyn ychwanegu cydbwysedd a phrofiad i’n carfan,” meddai Easterby.

“Rydym wedi dweud nifer o weithiau y byddwn ni’n recriwtio o’r tu allan i gryfhau adrannau allweddol yn ein grŵp ar gyfer y tymor nesaf.

“Mae hynny’n parhau yn rhan o’n strategaeth i gadw profiad allweddol ym Mharc y Scarlets yn ogystal ag adeiladu a chryfhau’n carfan gyda chwaraewyr newydd.”

Hon yw ail dymor McCusker fel capten y Scarlets, ar ôl iddo chwarae dros y rhanbarth am y tro cyntaf nôl yn 2007, ac mae gan y blaenasgellwr 28 oed o Wrecsam hefyd chwe chap dros Gymru.

Fe ymunodd Phillips â’r Scarlets yn 2012 ar ôl pedwar tymor gyda’r Gweilch, ac yn gynharach eleni fe sgoriodd yr asgellwr 23 oed gais unigol gwefreiddiol wrth i Fois y Sosban drechu Racing Metro yng Nghwpan Heineken.