Matthew Rees
Mae chwaraewr rygbi’r Gleision, Matthew Rees wedi cyhoeddi ei fod yn cerdded 75 milltir i godi arian at ganolfan canser Felindre.
Fe fydd y daith yn dechrau ddydd Gwener ac yn para saith niwrnod.
Derbyniodd cyn-fachwr Cymru driniaeth am ganser y ceilliau yn y ganolfan yn gynharach eleni.
Mae’r ganolfan yn trefnu ymgyrch ‘Buddugoliaeth tros Ganser’.
Fe fydd y chwaraewr yn cerdded 75 o filltiroedd rhwng yr holl glybiau mae e wedi eu cynrychioli yn ystod ei yrfa.
Mae’r clybiau’n cynnwys y Scarlets, Pontypridd, Treorci, y Gleision a Thonyrefail.
Yn cadw cwmni iddo ar y daith fydd ei gyd-chwaraewyr Iestyn Thomas, Martyn Williams, Morgan Stoddard a Dale McIntosh.
Mae tudalen JustGiving yr ymgyrch yn dangos fod Matthew Rees eisoes wedi codi £585 cyn dechrau’r daith.