Mae Caerdydd wedi cadarnhau fod eu hamddiffynnwr Juan Cala wedi cael ei gyhuddo gan yr FA o ymddwyn yn amhriodol yn dilyn digwyddiad yn ystod eu gêm ar y penwythnos.

Honnir fod Cala wedi bod yn rhan o ddigwyddiad yn y twnnel ar ôl y gêm rhwng Caerdydd a Sunderland ddydd Sadwrn, gêm a gollodd yr Adar Gleision 4-0.

Cafodd Cala ei anfon o’r maes yn ddadleuol cyn yr egwyl ar ôl trosedd ar ymosodwr Sunderland Connor Wickham, gyda Fabio Borini’n dyblu’r fantais gyda’r gic o’r smotyn ddaeth ohoni.

Fe brotestiodd Caerdydd yn chwyrn yn erbyn y penderfyniad, ar ôl i’r dyfarnwr Phil Dowd chwarae mantais gan roi cyfle arall i Wickham cyn dod yn ôl i gosbi’r drosedd.

Mae’r cyhuddiad yn erbyn Cala’n ymwneud ag ymddygiad honedig yn y twnnel ar ôl y gêm, ac mae gan y Sbaenwr tan 6yh ddydd Iau 1 Mai i ymateb i’r cyhuddiad.

Gallai felly fethu gweddill y tymor i Gaerdydd, gan ei fod eisoes wedi’i wahardd o’u gêm nesaf yn erbyn Newcastle oherwydd y cerdyn coch.

Mae’n debygol y bydd yn rhaid i Gaerdydd ennill eu dwy gêm olaf, yn erbyn Newcastle ac yna gartref yn erbyn Chelsea ar y diwrnod olaf, os ydyn nhw am aros yn yr Uwch Gynghrair.

Byddai buddugoliaeth mewn dim ond un o’r gemau hynny’n golygu eu bod yn dibynnu ar ganlyniadau’r timau eraill o’u cwmpas i gyd yn mynd o’u plaid.