Ar Orffennaf 10, 1509, yn Picardie, Ffrainc, ganed y diwinydd mawr, ac un o arweinyddion pwysicaf y Diwygiad Protestannaidd, John Calvin (bu farw yn 1564).

Am ychydig, heddiw, hoffwn ystyried yn fras iawn, yr hyn a ddywed Calvin am bregethu.

I ddechrau, wedi i Calvin gael ei erlid o Genefa yn 1538, ysgrifennodd y Cardinal Jacopo Sadoleto (1477-1547) at bobol Genefa a’u gwahodd i ddychwelyd i freichiau’r Eglwys Babyddol. Yn eironig braidd, gofynnodd pobol Genefa i Calvin ymateb i’r llythyr, ac yn yr ymateb hwnnw mae Calvin, ymhlith trwch o bethau eraill, yn dannod y math o bregethu y clywodd gan y Pabyddion: roedd ambell bregethwr, meddai, yn mynnu codi materion dyrys, tywyll, er mwyn syfrdanu ei gynulleidfa; ac eraill wedyn yn pwyso ar storïau bach diddan i gadw’r bobol yn hapus, ac o dro i dro, ceir ambell gyfeiriad prin at yr ysgrythurau. Myn Calvin mai un o ganlyniadau mawr y diwygio crefyddol oedd y newid a fu ar bregethu. Cafodd seiliau pregethu eu gosod yn gadarn ar yr ysgrythurau a rhoi i bregethu le canolog yn addoli’r eglwys.

Credai Calvin mai ewyllys Duw yw hyfforddi ei bobol drwy weinidogion ei Eglwys. Er nad oes yr amheuaeth leiaf y gallai Duw berffeithio ei bobol heb weinidogion, pregethwyr, arweinwyr ac addysgwyr; mae Duw yn dewis cyflawni ei fwriad drwy’r Eglwys a thrwy weinidogion yr Eglwys. Peth peryglus, felly, yw gwneud yn fach o bregethu trwy esgeuluso’r cwrdd. Buasai’n hawdd iawn cerdded y llwybr hwn heddiw, a sôn am ddiffygion y ‘gynulleidfa’; ond nid am y gwrandawyr mae Calvin yn sôn! Ergyd Calvin, fel ergyd o ordd mewn gwirionedd, yw fod modd i weinidogion fychanu pregethu yn eu diffyg paratoi a thrwyddo. Meddai Calvin yn un o’i bregethau ei hun (Testun Deuteronomium 6:15-19):

“…pe bawn i’n dringo i’r pulpud heb weld yn dda edrych ar lyfr o gwbl a breuddwydio’n ffôl a dweud, ‘Wel, nawr te, pan af i’r pulpud fe rydd Duw ddigon i fi siarad amdano’, a finnau heb ymostwng i ddarllen na meddwl am beth y dylwn ei bregethu a dod yma heb fyfyrio’n dda ymlaen llaw sut mae cynhwyso’r Ysgrythur Lân at adeiladu’r bobl, fe fyddwn i’n greadur rhyfygus – a byddai Duw yn fy nrysu yn fy haerllugrwydd hefyd.

Diolch John. Diolch am f’atgoffa o ddiben y cyfan: cydblethiad o ymdrech gweinidog / pregethwr / arweinydd eglwys â gwaith Duw yw pregethu. Dyma’r wyrth sydd yn ei hymyl o Sul i Sul – cig a gwaed o bregethwr yn pregethu Gair Duw. Ofnaf ein bod, fel pregethwyr yng Nghymru, yn anghofio pwysigrwydd a gwerth pregethu. Nid cyfrwng ein tystiolaeth yw pregethu ond anghenraid, ei hanfod a’i ddeunydd. Braint, nid bwrn, yw pregethu. Mae pregethu yn galw am orau’r pregethwr, ac wedi cael o’n gorau fe welwn weithiau’r wyrth fod Duw, trwy ein geiriau, yn gafael yng ngeiriau ein Cymraeg a’u troi yn rhyfeddach gwyrth na gwyrth Cana gynt!

Yn ail, prif amcan pregethu yw cymodi pobol â Duw; a hyn yn bosibl oherwydd i Dduw estyn i ni ei faddeuant. Dyma ddywed Calvin yn ei esboniad ar Ioan 20:23:

“Dyma felly brif amcan pregethu’r Efengyl: cymodi dynion â Duw. Y mae yn yr Efengyl lawer peth arall, ond amcan Duw ynddi yn bennaf oll yw derbyn pobl i’w ffafr heb gyfrif eu pechodau. Gan hynny, os rhagori fel gweinidogion ffyddlon yr Efengyl yw ein dymuniad, rhaid ymroi i hyn o beth â’n holl egni.

Diolch eto John. Diolch am f’atgoffa mai cymodi pobol â Duw oedd amcan gweinidogaeth Iesu. Ofnaf ein bod yng Nghymru wedi anghofio hynny a, bellach, holl ddiben ein gweinidogaeth lipa yw cymodi Duw â phobol. Mae byd o wahaniaeth rhwng y naill a’r llall. Dyna sydd wrth wraidd ein hargyfwng. A gwae ni, wrth ddadansoddi’r sefyllfa, fynd â siswrn i docio’r brigau yn hytrach na bwyell at wreiddyn y pren.