Mae ymwelwyr o Seland Newydd, Abu Dhabi, yr Iseldiroedd a’r Eidal wrth eu boddau gyda gwesty yn y gogledd…

Rhoi croeso unigryw Cymreig yw nod perchennog llety gwely a brecwast sydd wedi derbyn clod am ei defnydd o’r iaith.

Mirain Gwyn sy’n rhedeg gwesty Taldraeth ym Mhenrhyndeudraeth, pentref sydd rhyw dair milltir o dref Porthmadog yng Ngwynedd, ac mae hi yn y ras am y wobr am ddarparu’r croeso Cymreig cynhesaf.