Bydd roc trwm band o’r gogledd yn bendithio clustiau pobol Caerdydd a thu hwnt wrth i Tafwyl ddychwelyd i Barc Biwt y penwythnos hwn…

Dros ddau ddiwrnod llawn dop yng Nghaerdydd y penwythnos hwn, bydd cyfle i fwynhau cerddoriaeth byw, theatr, sgyrsiau difyr, comedi a gwledda. Ymysg yr enwau mawr sy’n perfformio ddydd Sadwrn mae Mellt, Yws Gwynedd a Meinir Gwilym ar y prif lwyfan. A bydd modd mwynhau Eden, Gwilym, Kim Hon a HMS Morris ar y Sul.