Portread o Elin Hywel

Mae is-Gadeirydd newydd Cymdeithas y Cymod yn gynghorydd sir weithgar ac ar dân dros ddyfodol ei chymuned.

Ers 2022, mae Elin Hywel yn cynrychioli Gogledd Pwllheli fel aelod Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.

Yn ferch i Hywel Williams, y dyn fu’n Aelod Seneddol Arfon am dros ugain mlynedd cyn ffarwelio â San Steffan yn ddiweddar, dywed y fam i dri ei bod hi wedi bod yn wleidyddol ers yn ifanc iawn.