“Roeddwn i wedi cymryd ein bod ni wedi colli, ond roedd popeth yn iawn, roedden ni’n mwynhau’n diwrnod… roedd e’n anhygoel….”

 Mae ffilm fer gan glwb drama ysgol uwchradd yn Sir Gaerfyrddin wedi curo degau o ysgolion eraill gan ennill gwobr fawr yn Llundain.

Hanes y Gymraeg yw testun y ffilm fer fuddugol, The Language of Cymraeg, enillodd yn y categori Ffilm Orau gan blant 12-15 oed yng Ngwobrau Into Film 2024.