“Roedden ni wir eisiau gwrthgyferbynnu’r cyfoeth materol sydd i weld yn y castell efo’r cyfoeth diwylliannol yn y gymuned…”

Gyda help pedwar artist blaenllaw, mae pobol ardal Dyffryn Ogwen wedi cael y cyfle i ymateb drwy gyfrwng celf i baentiad trawiadol gan Henry Hawkins, ‘The Penrhyn Slate Quarry’, sy’n eiddo i Gastell Penrhyn. Cafodd y llun ei baentio yn 1832, pan oedd y chwarel ar ei hanterth.

Estynnodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wahoddiad i ddisgyblion o Ysgol Dyffryn Ogwen, rhai o gyn-weithwyr y chwarel ac aelodau o fenter gymunedol Partneriaeth Ogwen i ymateb i’r darlun, gan weithio gyda’r artistiaid Rhiannon Gwyn, Anna Pritchard, Rebecca F Hardy a Jŵls Williams.

Ac ar hyn o bryd mae’r gwaith a gafodd ei greu ganddyn nhw i’w weld mewn arddangosfa arbennig, ‘Ail-fframio’, yng Nghastell Penrhyn, sydd ar gyrion dinas Bangor.

Mae’r Castell yn dal i fod yn symbol dadleuol i lawer ym mhentref Bethesda oherwydd yr atgof am Streic Fawr Chwarel Penrhyn (1900 – 1903). Cododd y Streic oherwydd anghydfod chwerw rhwng yr Arglwydd Penrhyn a’r gweithwyr yn y chwarel yn dilyn blynyddoedd o anfodlonrwydd yn ardal Dyffryn Ogwen, yn canolbwyntio ar hawliau Undeb, tâl ac amodau gwaith. Bu rhai aelodau o’r gymuned yn ymweld â’r Castell am y tro cyntaf erioed ar ôl bod yn rhan o gywaith Ail-fframio.

Haenau o hanes mewn llun

Darn mawr o ludwaith sydd yn efelychu darlun gwreiddiol Henry Hawkins. Bu’r artist o Fangor, Jŵls Williams, yn creu’r llun newydd gyda chriw Partneriaeth Ogwen yn eu gweithdai yng nghanolfan Cefnfaes ym Methesda.

“Roedden nhw wedi cwrdd ac wedi trafod y llun [gan Henry Hawkins] a’r hanes, a’r hyn sydd ar goll yn y llun – ei fod o ddim yn dweud cweit y gwir o ran yr amgylchiadau ar y pryd,” meddai Jŵls Williams. “Wrth gwrs, roedd bywyd yn galed, ond roedd yna deimlad o falchder cymuned, ac roedd absenoldeb merched a theuluoedd o’r dehongliad gwreiddiol. Beth ddaru ni geisio’i wneud oedd rhoi darlun mwy cyfan a llawn o’r hyn ddigwyddodd go-wir.”

Yn ei gwaith celf mae Jŵls yn gweithio mewn haenau o baent ac o wahanol elfennau. Mae’r darn gludwaith cyfoes yn chwarae gyda’r syniad o haenau daearegol y chwarel, a’r syniad bod haenau o hanes ynghudd yn y chwarel. “Ein ffordd ni o ddehongli llun Hawkins oedd drwy greu haenau o ludwaith yn dweud gwahanol hanes,” eglura’r artist.

“Am ein bod wedi gweithio mewn tair neu bedair haen ar dop ei gilydd, mae llawer o’r hyn a wnaethon ni wedi cael ei guddio erbyn rŵan. Dim ond fi a’r grŵp bach o bobol leol o Bartneriaeth Ogwen sy’n gwybod beth sydd o dan yr haenau… O dan y darn lle mae’n dweud ‘Nid Oes Bradwyr yn y Tŷ Hwn’, mae stori wahanol yn digwydd. Dydyn ni ddim yn ei weld o, ond mae o’n rhan o hanes.”

Wrth greu’r gwaith, gwnaeth yr artist lungopi enfawr o’r darlun gwreiddiol a chreu jig-so ohono, a’i dynnu’n ddarnau. Maen nhw wedi gludo rhai o’r darnau hwnt ac yma ar y gwaith. “Mae elfennau o’r painting go-wir yn popio fyny – rydach chi’n gweld rhai o’r cymeriadau, efallai aderyn…”

Hen enwau’r ponciau

Elfen arall sydd ar y darlun yw dernyn o gofnod darluniadol gan William John Roberts, yn nodi enwau llafar ponciau’r Chwarel. Creodd lu o gofnodion sgrifenedig sydd ar gadw bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ef oedd tad Dafydd Roberts, cyn-bennaeth yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, a oedd yn gysylltiedig â chriw Partneriaeth Ogwen.

“Mi wnes i ofyn iddo a oedd yn iawn defnyddio gwaith ei dad,” meddai Jŵls. “Roedd ei dad wedi enwi darnau’r gwahanol bonciau a mannau o’r chwarel. Fe allai’r enwau yma heddiw fod wedi diflannu, ond mae gyda ni gofnod ohonyn nhw. Roedden ni eisio gwneud yn siŵr nad oedden ni’n gorchuddio hynny. Mi oedden ni wedi ei sticio fo yn reit gynnar yn y broses wedyn bob tro roedd glud neu rywbeth yn mynd ar ei ben, ro’n ni yn ei dynnu ffwrdd. Felly mae cofnodion tad Dafydd Roberts yno.”

Mae ffotograffau o chwarelwyr yn y darn cyfoes, er nad oedd lluniau o’r fath ar gael yn union gyfnod y darlun. “Mae’r ffotograffau r’yn ni wedi eu cael ddim cweit o’r adeg yna yn union,” meddai’r artist, “ond does dim ots, achos ro’n ni’n dehongli rhywbeth o nawr ac yn mynd am yn ôl. Mae’r darn o waith yn gyfoes, a’r chwarel yn dal yn fyw.”

Rhywbeth sy’n adlewyrchu chwarel gyfoes yw’r lliw oren ar y llun, sy’n adleisio lliw siacedi fflwroleuol gwisg gweithwyr chwareli heddiw. “Felly rydan ni’n mynd o rŵan nôl at y 19fed ganrif,” eglura Jŵls, “yn cael llawer o wahanol ddarnau o hanes, y bobol fu’n gweithio yno drwy’r oesoedd.”

Er mwyn talu teyrnged i greadigrwydd y chwarelwyr, mae hi wedi cynnwys rhwbiadau o gerfiadau celfydd llechi chwarelwyr Chwarel Penrhyn ar y gwaith. “Digwydd bod, mae gen i iard gefn llechi, ac mae un o’r darnau mawr o’r llechi efo’r cerfiadau yna gan chwarelwyr arno fo,” meddai. “Ro’n i’n medru gwneud y rubbings adre! … Gwaith y chwarelwyr ydi’r rheina. Wrth gwrs, byddai rhywbeth fel yna byth yn bodoli mewn painting Rhamantaidd go-wir. Mae o’n un ffordd o ddehongli’r hanes.”

Mi fydd Jŵls Williams yn cynnal gweithdai celf mewn ysgolion a chymunedau. Ar hyn o byrd mae hi yn gweithio ar ran Oriel Mostyn, Llandudno, yn ymweld ag ysgolion lleol sir Conwy, yn gwneud gwaith yn seiliedig ar arddangosfeydd yr oriel. Mae hi’n seilio llawer o’i gwaith celf ei hun ar y chwareli – fe fu pedair cenhedlaeth o’i theulu yn gweithio yn chwarel ithfaen Penmaenmawr.

“Roedd fy nhaid i yn mynd â fi fyny at y chwarel pan o’n i’n fach,” meddai. “Felly dw i’n aml yn cael fy ysbrydoli gan y dirwedd ddiwydiannol. Mae diddordeb mawr gen i ac yn yr haenau o hanes rydan ni’n eu gweld a’r ffordd mae’r mynyddoedd yma efo olion cannoedd a channoedd o bobol.”

Gwisg, crochenwaith, cerdd a chân

Fe greodd Anna Pritchard wisg high-viz creadigol a chyfoes gyda disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen, ac fe luniodd yr artist o Fethesda, Rhiannon Gwyn, ddarnau o grochenwaith gyda help rhai o’r cyn-chwarelwyr.

Dim ond unwaith yr oedd y cyn-chwarelwr Alan Hughes wedi bod i Gastell Penrhyn cyn bod yn rhan o’r project Ail-fframio. “Doeddwn i ddim yn cofio llawer amdano, felly roedd y project yma yn sicr yn agoriad llygaid i mi,” meddai. “Roedd gweld y paentiad am y tro cyntaf, a’r broses o weithio efo’r grŵp yn dod â llawer o atgofion yn ôl ata i o be’ wnes i ddysgu gan chwarelwyr hŷn na fi am wyneb y graig, ac am pam nad oedd llawer o’r genhedlaeth hŷn ym Methesda yn ymweld â Chastell Penrhyn.”

Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys cerddi gwreiddiol gan Rhys Iorwerth, a cherddoriaeth gan Gwen Siôn, wedi’u comisiynu yn arbennig.

“Mae Dyffryn Ogwen yn ardal sy’n llawn dop o bobol greadigol,” meddai Nici Beech, cynhyrchydd creadigol y project. “Roedden ni wir eisiau dangos hyn yn yr arddangosfa, a gwrthgyferbynnu’r cyfoeth materol sydd i weld yn y castell efo’r cyfoeth diwylliannol yn y gymuned yma.”

* Mae ‘Ail-fframio’, yn y Neuadd Fawr yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd, Bangor ar hyn o bryd