Yn Bennaeth Adloniant S4C ers bron i ddegawd, bu’r ferch fferm yn gyfrifol am gomisiynu cyfresi poblogaidd megis Priodas Pum Mil, Sgwrs Dan y Lloer ac Iaith ar Daith.

Ond mae’r fam o Faldwyn yn ffarwelio â’r Sianel Gymraeg ac yn bwriadu gwneud “llai o siarad a mwy o greu”…

 

Sut ydych chi’n teimlo ar ddiwedd eich cyfnod yn Bennaeth Adloniant S4C?

Rwy’n pasio’r awenau yn hyderus i fy olynydd, Beth Angell. Dymunaf y gorau iddi wedi bron i ddegawd mewn rôl freintiedig rwyf wedi ei pharchu a’i chofleidio mewn sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth. Rôl sydd wedi golygu llawer mwy i mi na swydd.   Peth anodd felly ydy ffarwelio.

Ers tro bu’r sibrwd yna y tu mewn i mi yn tyfu’n raddol uwch ac yn fwy diamynedd.  Y llais dryslyd yna na fedrwn i mo’i anwybyddu mwyach. Ro’n i ar y groesffordd anweledig yna gyda fy mhen yn dweud wrtha i am aros mewn swydd rwy’n ei charu.  Eto, fy ngreddf fwy swnllyd yn dweud fy mod i wedi rhedeg fy ras orau… Amser i fentro a rhedeg un arall.

Ond daeth y penderfyniad i fynd amdani ddim dros nos. Mae gweithio mewn tîm clos o gyd-weithwyr talentog sy’n teimlo fwy fel ffrindiau yn anodd i adael fynd.  Pam rhoi’r gorau iddi a finnau dal yn hapus ac yn gwneud yn iawn yn fy swydd wrth gael fy ysbrydoli a fy nghyffroi o hyd gan syniadau a chreadigedd y sector? Ond nid pobol yw swyddi. A dyna’r union reswm pam fy mod i felly’n barod i symud ymlaen.  Er bod y swydd wedi bod yn rhan bwysig a balch o fy nhaith, mae gen i fwy i’w roi, yn gwneud mwy o’r hyn rwy’n ei fwynhau – rhywle arall.

Felly, wrth i mi godi fy mhac, dwi’n gobeithio mod i wedi gwneud y penderfyniad iawn. Yr unig ffordd i wybod yw mynd amdani. Am siwrne!  Reit, anadl ddofn!  Ymlaen!

Beth oedd eich bwriad wrth wneud y gwaith?

Deall braint a chyfrifoldeb y rôl, a pharhau gyda gwaith gwych a phwysig S4C. Cofio mai’r gynulleidfa sydd wrth galon popeth.

Beth fu’r gwersi? 

Mae S4C yn drysor cenedl, a phawb â barn gref. Peth hawdd ydi comisiynu o’r tu allan ac amhosib yw plesio pawb. Yr her felly oedd sicrhau bod rhywbeth at ddant pob un o fewn yr arlwy. Gwers bwysig arall oedd deall mai’r gynulleidfa, ac nid fy chwaeth bersonol i oedd yn gyrru’r penderfyniadau. Hefyd, o wneud dewisiadau anodd yn ddyddiol, magu croen eliffant a deall bod didwylledd rhesymeg a thrafod gonest wrth siomi, yr un mor bwysig â rhoi newyddion da.

Beth fyddwch chi yn ei wneud nesaf?

Llai o siarad a mwy o greu.

Beth yw eich atgof cynta’?

 Ganol gaeaf pan o’n i tua phedair oed a bws bach yr ysgol methu mynd ymhellach oherwydd yr eira. Dwi’n cofio trio cerdded drwy luwchie oedd yn uwch na fy wellingtons. Ro’n i mor hapus wrth i fy nghefnder fy nghario’r ddwy filltir adref. Atgof llawn antur a byw hyd heddiw.

Cefais i fy magu yn y lle gorau yn y byd – ar fferm fynydd wrth Lyn Clywedog ym Mwynder Maldwyn. Lle braf ond y gaeaf yn gallu gafael.

Beth yw eich ofn mwya’?

Wel, ofn a chwilfrydedd. Pan o’n i’n fach a Nain Berth Fawr, Dolanog, yn dod i aros efo ni, ro’n i’n erfyn arni i ddweud straeon ysbryd wrtha i. Roedd ganddi gymaint ohonyn nhw yn straeon lleol iddi.  Ro’n i wrth fy modd yn cael rhannu gwely a hithau’n adrodd y straeon mor fyw i mi. Finnau wedyn methu cysgu gan ofn. Roedd Nain wedi recordio’r straeon i Sain Ffagan ac yn ddiweddar ges i glywed ei llais hi unwaith eto’n ddigidol. Sbesial.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i wedi dechrau sgipio bob bore. Rhywun oedd yn dweud ei fod o’n beth da i ddeffro’r corff ac mae’n ddigon hawdd i fedru gwneud yn unrhyw le. Gwell fyth, mae o drosodd ym mhen dim. Dw i’n hoff o gerdded hefyd a rhedeg yn araf wrth roi’r byd yn ei le efo ffrind. Mi fydda i’n nofio yn y môr weithiau hefyd. Dw i’n gwneud fy ngorau (ddim bob tro) i wneud unrhyw beth i gadw’n heini yn y bore – neu anghofiwch hi wedyn!

Beth sy’n eich gwylltio?

Bwlis.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Wel, cyfuniad reit ryfedd ond sy‘n gwneud synnwyr llwyr i mi a dw i’n credu y bydden nhw’n mwynhau cwmni ei gilydd hefyd. Bob un gyda rhyw fath o gyswllt i mi, yn gymeriadau unigryw ac wedi byw bywydau rhyfeddol.

Nelson Mandela – ces i‘r fraint o ysgwyd ei law pan fu iddo dderbyn Rhyddid Dinas Caerdydd.

Nansi Richards, telynores Maldwyn – wnes i enwi fy merch ar ei hôl.

A hen berthynas i mi, Griffith Griffiths, aeth ar y Mimosa i Batagonia. Fo oedd Archdderwydd cyntaf y Wladfa. Ei enw barddol oedd Gutyn Ebrill. Mae gan mam gopïau o hen lythyrau roedd o’n anfon  adref yn disgrifio’r Wladfa, ac yn gofnod arbennig o’r cyfnod.

Dw i’n siŵr y byddai hi’n sgwrs ddifyr rhwng y tri a finnau jest yn gwrando’n astud. Sdim ots am y bwyd, y sgwrs fyddai’r wledd.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Wel mi ges i sws gan Ewan McGregor unwaith wrth mi fynd i’w wylio gyda ffrind roedd yn ei nabod yn sioe Guys and Dolls. Cochais ac ni ymolchais fy moch am fis. OND swsys gan Nansi fy merch neu Dylan y gŵr sydd bob tro yn cyffwrdd y galon.

Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?

Wel mae’n codi cywilydd arna i hyd heddiw. Y tro cyntaf a’r olaf i mi dwyllo mewn arholiad. Ro’n i’n tua 11 oed yn Ysgol Uwchradd Llanidloes mewn arholiad ysgrifenedig coginio, ac am ryw reswm, ro’n i wedi rhoi darnau bach o bapur llawn ryseitiau cacennau yn fy nghas bensil a ches fy nal a fy hel at y prifathro… Gwers anodd.

Gwyliau gorau i chi fwynhau?

Dw i wedi mwynhau nifer drwy’r blynyddoedd am wahanol resymau, ond o orfod dewis, dathlu’r 50 efo Dylan y gŵr a Nansi’r ferch yn teithio’r Pacific Coast Highway yn California.

Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?

Dyfodol ein plant yn y byd rhyfedd yma rydan ni’n byw ynddo.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Tŷ Jac gan Manon Eames. Llyfr i blant ond mor glyfar ac mor berthnasol i’n byd ni heddiw.

Caneuon fy Ngwlad, sef Casgliad Nicholas Bennett, Glanrafon, Trefeglwys, Maldwyn o ganeuon gwerin.  Dw i’n lwcus fod gen i gopi gan i dipyn o’r casgliad gael eu difrodi mewn llifogydd.

Y Prydydd Dwys a Doniol, sef llyfr am fy hen Daid, Hugh Ellis y Berth, Dolanog gan fy nghefnder Huw Ellis.

Under Milk Wood gan Dylan Thomas a’r addasiad gwych, Dan y Wenallt, gan T James Jones.

Pa air ydych chi’n gorddefnyddio?

Pam?

Beth yw eich hoff air?

Sbwrlas. Dad sy’n defnyddio’r gair sy‘n disgrifio rhan o lidiart (giât). Dw i ddim cweit yn deall pa ran o lidiart yw sbwrlas, ond dw i’n hoff o sŵn y gair.

Hoff albwm?

Dawnsio ar y Dibyn gan Bryn Fôn a’r Band. Mae‘r caneuon a’r geiriau jest yn cyffwrdd. A Cool for Cats gan Squeeze. Mae’n fy nhywys yn ôl i fwynhau’r haf poeth yn Ne Ffrainc tra’n fyfyriwr.

Hoff dric?

Dw i’n gallu gwneud y splits ond dw i’n difaru bob tro rŵan wrth i mi fynd yn hŷn.

Beth oedd eich swydd gyntaf?

Gweithio yn y Milk Bar yn Llanidloes. Un dydd Sul, fi oedd yr unig un yn gweini a daeth llond y lle o feicars i mewn. Dw i dal yn chwysu yn meddwl am y peth.

Rhannwch ffaith ddifyr efo ni…

Yn Ysgol Uwchradd Llanidloes roeddwn yn rhannu desg efo Adam Woodyatt – sef ‘Ian Beale’ yn Eastenders – mewn gwersi Bioleg. Arhosodd o ddim i’r chweched gan ei fod wedi cael swydd mewn opera sebon newydd o’r enw Eastenders. Y flwyddyn oedd 1986.