Dyma ni yng nghyfnod y Grawys! Dechrau’r Grawys, nid ar Ddydd Mawrth Crempog, ond ar Ddydd Mawrth Ynyd. Gwraidd y gair ‘ynyd’ yw’r Lladin: initium – dechreuad. Dydd Mawrth Ynyd oedd y diwrnod i gyffesu pechodau a derbyn gollyngdod. Drannoeth, ddydd Mercher Lludw, rhoddid lludw ar dalcen y ffyddloniaid fel arwydd gweledol o’u hedifeirwch wrth iddyn nhw ddechrau eu penyd. Yna, dros gyfnod o chwe wythnos ceid ympryd y Grawys: deugain niwrnod yn symbol o gyfnod Iesu yn yr anialwch.
Am rai canrifoedd, roedd yr ympryd yn un llym: dim cig, na physgod; dim llaeth, menyn na chaws. Gyda threigl y canrifoedd, roedd tuedd i lacio’r rheolau, ond parhawyd i ystyried y Grawys yn gyfnod i edifarhau ac ymatal rhag moethau. Erbyn heddiw, hyd yn oed ymhlith y ffyddloniaid sy’n honni parchu’r Grawys, nid yw ymprydio’n golygu fawr mwy nag ymatal rhag bwyta siocled!
Er hynny, neu efallai yn union oherwydd hynny, mae’r cyfnod hwn yn bwysig. Ceisiai’r Grawys bwysleisio agweddau ar y bywyd Cristnogol sydd yn berthnasol iawn. Yn gyntaf, edifeirwch. Dyma un o hanfodion y bywyd Cristnogol, a chan gyfaddef nad rhywbeth ar gyfer un tymor yn y flwyddyn mohono, credaf mai buddiol yw neilltuo cyfnod penodol i fynd i’r afael, o ddifri, â’r tueddiad sydd ynom i gondemnio pechodau pobol eraill yn hytrach nag edifarhau am ein pechodau’n hunain. Mae’r Grawys yn galw arnom i edifarhau am ein hamharodrwydd cyson i edifarhau o ddifri.
Peth arall gaiff ei bwysleisio gan y Grawys yw disgyblaeth. Mae ein crefydd yn gosod rhwymedigaethau arnom. Mae’r cyfnod hwn yn arwydd gweledol o’r hyn a hawlia ffydd gennym bob dydd: disgyblaeth fyw a deinamig. Rhaid wrth hyn mewn gwlad a byd lle mae cymaint o gyni, newyn a thlodi. Sut allwn godi llais torfol yn erbyn newid hinsawdd, a ninnau’n unigol yn parhau i afradu adnoddau’r byd beunydd beunos? Sut allwn weddïo am ddiwedd i dlodi, ymhell ac agos, os nad yw ein ffordd o fyw, ein ffyrdd o wario a chynilo, yn gyfryngau i ateb y weddi honno?
Edifeirwch, disgyblaeth: hanfodion y Grawys, hanfodion bod yn Gristion. Cydnabod pwysigrwydd y Grawys ai peidio, mae’r naill a’r llall yn allweddol o hyd i weinidogaeth a chenhadaeth pob lliw a llun o eglwys Gristnogol.