Bydd gofal brys a gofal mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol yn parhau i gael eu darparu yn ystod ail streic meddygon iau yng Nghymru yr wythnos hon.

Ond mae disgwyl y bydd tarfu sylweddol ar wasanaethau eraill.

Mae Judith Paget, Pennaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, hefyd yn annog pawb i helpu i leihau’r baich ar y Gwasanaeth Iechyd drwy ystyried opsiynau eraill, yn lle mynd i’r ysbyty oni bai bod angen gofal brys.

Cyn y gweithredu diwydiannol fydd yn dechrau ddydd Mercher, mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn dweud bod Llywodraeth Cymru bob amser yn agored i gael trafodaethau pellach, ond nad oes ganddi’r gyllideb i gynyddu’r cytundeb cyflog.

“Rydyn ni’n siomedig bod meddygon wedi penderfynu cymryd gweithredu diwydiannol pellach yng Nghymru, ond rydyn ni’n deall bod ganddyn nhw deimladau cryf am ein cynnig cyflog o 5%,” meddai.

“Mae ein cynnig ar lefel uchaf y sydd ar gael i ni ac mae’n adlewyrchu’r penderfyniad y daethom iddo gyda’r undebau iechyd eraill.

“Ond byddwn ni’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

“Rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ac rydyn ni bob amser yn agored i gael rhagor o drafodaethau.”

Amddiffyn diogelwch cleifion

“Fel yn ystod y streic ddiwethaf, rydyn ni’n croesawu’r dull cydweithredol o ymdrin â diogelwch cleifion sydd wedi’i ddefnyddio gan Gymdeithas Feddygol Prydain,” meddai Judith Paget, Prif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw a sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei amddiffyn yn ystod y gweithredu diwydiannol.

“Rydyn ni’n disgwyl y bydd tarfu sylweddol ar weithgareddau nad ydynt yn rhai brys a gweithgareddau dewisol yn ystod y gweithredu diwydiannol, gyda llawer o waith eisoes wedi’i ohirio.

“Yn ystod y streic ddiwethaf, cafodd tua 41% o apwyntiadau cleifion allanol a 61% o lawdriniaethau eu gohirio ledled Cymru.

“Roedden ni’n disgwyl i wasanaethau yn ystod y gweithredu diwydiannol fod yn debyg i’r rhai sy’n cael eu darparu’n gyffredinol ar Ŵyl Banc.

‌“Er hynny, os oes gennych angen hollbwysig i fynd i adran achosion brys, dylech barhau i wneud hynny.

“Ond rydyn ni’n annog pawb i ystyried yr opsiwn gorau iddyn nhw, gan gynnwys y gwasanaeth 111 ar-lein neu dros y ffôn, neu eu fferyllfa leol.”