Gyda phrotestiadau ar draws y cyfandir, ein colofnydd Materion Cyfoes sy’n rhoi’r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ei gyd-destun Ewropeaidd…


Ledled Ewrop, mae ffermwyr yn flin. Wedi gwylltio’n gacwn efo problemau cyffredinol fel prisiau is am eu cynnyrch wrth i gostau tanwydd a gwrtaith saethu drwy’r to. Grym yr archfarchnadoedd, mewnforion rhad o dramor, rheolau amgylcheddol llym yr Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni wedi hen arfer â gweld y Ffrancwyr yn dympio teiars ar draffyrdd a harddu adeiladau’r llywodraeth â slyri. Waeth inni heb â disgwyl manylder gan gyfryngau Eingl-ganolog Llundain, ond trowch i wefan Euronews, ac mae’r lluniau a’r ffigurau’n syfrdanol:

  • ffermwyr Fflandrys yn cynnal blocâd 500 o dractors ym mhorthladd mwyaf ond un Ewrop yn Antwerpen
  • protestiadau wyth diwrnod o’r bron yn Sbaen, a’r Catalaniaid yn rhwystro mynediad i brif farchnad fwyaf Barcelona, porthladd Tarragona a’r prif ffin â Ffrainc
  • amaethwyr Bwlgaria yn mynnu ymddiswyddiad eu gweinidog yn sgil cymorth ariannol diffygiol i ffermwyr âr a da byw
  • mis o anghydfod ar ffin Gwlad Pwyl-Wcráin, wrth i gynhyrchwyr Pwylaidd a Rwmanaidd alw am gyfyngiadau ar fewnforion, yn enwedig llaeth a grawn o Wcráin, sy’n peryglu’r farchnad gartref
  • confoi symbolaidd o dractors coch, gwyn a gwyrdd yn cylchu Colisëwm Rhufain
  • tua 30,000 yn dod â Berlin i stop ddiwedd Ionawr dros gostau cynhyrchu drybeilig a bwriad y llywodraeth i leihau sybsidis tanwydd amaethyddol.

Fel y dywedodd Arnaud Rousseau, llywydd Fédération nationale des syndicats d’exploitants agricoles, un o undebau amaeth mwyaf Ffrainc:

Mae yna broblemau di-ri… ond yr un yw hadau’r protestiadau: diffyg dealltwriaeth rhwng realiti llawr gwlad a phenderfyniadau llywodraethau.

Am Ffrainc, gweler Cymru. Efallai nad yw’r gorymdeithiau mor fawr eto – rhyw 30 o dractors a phymtheg picyp yn rhwystro’r lôn o flaen swyddfa etholaethol Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, yn Wrecsam – ond yr un yw’r ymdeimlad o rwystredigaeth â’n haelodau etholedig. Eisoes, gwelsom gyfarfodydd tanllyd ym mart y Trallwng a Chaerfyrddin, y naill yn denu 1,000 a’r llall yn denu 3,000 llafar iawn yn erbyn Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â rheolau annynol y diciâu a’r parthau perygl nitradau (NVZ), elfen y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ydi’r hoelen olaf yn yr arch i lawer. Cymhorthdal newydd, gwnaed yng Nghymru, i gymryd lle cynllun Glastir a thaliadau’r Undeb Ewropeaidd yn 2025. Mae’r cynllun cynhennus yn gofyn i amaethwyr neilltuo 10% o’u tir yn gynefin amgylcheddol a 10% arall i dyfu coed, gyda’r potensial o golli tir ffrwythlon da, fel rhan o dargedau carbon Llywodraeth Cymru erbyn 2030.

Canmol a diawlio

Mae rhywun wir yn cydymdeimlo â ffermwyr o Eryri i Rhône-Alpes, ac yn parchu eu hawl i godi stŵr. Yn wir, dw i’n cofio ymuno â pherthnasau ym mhorthladd Caergybi ddiwedd y 1990au, mewn protest yn erbyn mewnforion cig eidion o’r Ynys Werdd. Cafodd lorïau eu hatal, a chafodd byrgyrs rhad a chas eu taflu i Fôr Iwerddon.

Ond dw i’n wirioneddol boeni am oblygiadau hyn i enw da ffermwyr a’r peryg y gallai elfennau eraill herwgipio’r ymgyrch. Yn fuan wedi cyfarfod torfol y Trallwng, roedd sgyrsfan The Farming Forum yn canmol siaradwyr yr NFU ac Undeb Amaethwyr Cymru cyn diawlio presenoldeb bolgwns o Stafford a Birmingham ddechreuodd refru am anufudd-dod sifil a’r “WEF”. Roedd rhai o giang y Midlands i’w gweld yn gwisgo bathodynnau grwpiau asgell dde eithafol. Rydyn ni wedi gweld y teips o’r blaen. Dynion tatŵiog yn tarfu ar ralïau heddwch Palesteina. Gwadwyr Covid-19. Deisebwyr y “blanket ban” 20m.y.a. Protestwyr dŵad yn lapio’r Ddraig Goch amdanyn nhw o flaen Gwesty Parc y Strade. Lleiafrif yn sarnu enw da’r mwyafrif synhwyrol.

Mae yna bryderon tebyg ar y cyfandir hefyd, gyda phleidiau asgell dde eithafol yn ceisio ennill tir yn etholiadau Senedd Ewrop ym mis Mehefin. Ac ydy, mae’r Aelodau o Senedd Ewrop sy’n aelodau o’r European Conservatives and Reformists Party yn chwarae ar chwerwedd y ffermwyr gyda rhethreg fel “elitiaid ma’s o gysylltiad”, “amgylcheddwyr radical” a “diktats Brwsel”.

Yma yng Nghymru, mae gan ffermwyr tan Fawrth 7 i ymateb yn derfynol i ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae’n gyfnod tyngedfennol. Cawn weld a fydd Lesley Griffiths a’i chyfoedion Ewropeaidd yn gwrando ar ein cynhyrchwyr bwyd. Mae pawb eisiau bwyd, wedi’r cwbl.