Mae’r bleidlais bellach ar agor yn ras arweinyddol Llafur Cymru.
Y tebygolrwydd cryf yw mai enillydd y ras rhwng Vaughan Gething a Jeremy Miles fydd Prif Weinidog nesaf Cymru, oni bai bod plaid arall yn cyflwyno ymgeisydd amgen.
Jeremy Miles a Vaughan Gething yw’r unig ddau ymgeisydd Llafur yn y ras.
Wedi i’r bleidlais agor ddydd Gwener (Chwefror 16), dyma gip ar yr hyn mae’r ddau ymgeisydd yn ei addo yn eu maniffesto.
Y Gymraeg
Yn rhinwedd ei rôl yn Weinidog Addysg a’r Gymraeg, mae gweithio tuag at wersi Cymraeg am ddim i rieni plant mewn addysg Gymraeg yn un o wyth o flaenoriaethau Jeremy Miles.
Mynychodd ysgol gyfrwng Gymraeg yn ardal Abertawe yn yr 80au, yn ystod cyfnod pan oedd yn rhaid i bobol deithio milltiroedd er mwyn cael mynediad at addysg Gymraeg.
Yn ôl yr ymgeisydd, sy’n cynrychioli etholaeth Castell-nedd, mae bod yn siaradwr Cymraeg yn rywbeth sydd yn bwysig iawn iddo, ac mae’n falch fod y nod wedi’i osod o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Dywed ei fod wedi ymrwymo i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 drwy ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn addysg – boed hynny mewn ysgolion cyfrwng Gymraeg neu rai cyfrwng Saesneg.
Dywed y dylai Llafur Cymru “gofleidio’r Gymraeg” ym mhopeth maen nhw’n ei wneud fel plaid.
Mae’n lledaenu’r neges fod y Gymraeg yn perthyn i bawb.
Mae llai o sôn am y Gymraeg ym maniffesto Vaughan Gething.
Er hynny, mae’r ymgeisydd wrthi’n dysgu’r iaith ac mae’n sôn yn ei faniffesto ei fod eisiau sicrhau “dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg”.
Mewn cyfweliad gyda The Guardian, dywedodd Vaughan Gething ei fod yn credu y byddai cael dysgwr yn rôl Prif Weinidog Cymru yn fantais i’r iaith.
“I gyrraedd miliwn, mae angen mwy o bobol fel fi, pobol sy’n dysgu, yn dangos bod yr iaith yno i bob un ohonom mewn gwirionedd; nid yw yno i eithrio pobol.
“Mae’n rywbeth i bob un ohonom fod yn falch ohoni.”
Dathlu amrywiaeth
Rhywbeth sydd yn gyffredin yn addewidion y ddau ymgeisydd yw eu nod o ddathlu diwylliant Cymru fodern.
Pe bai’n ennill, Jeremy Miles fyddai arweinydd LHDTC+ cynta’r blaid.
Vaughan Gething, pe bai’n ennill, fyddai’r arweinydd du cyntaf ar wlad Ewropeaidd.
“Fel Cymro du a aned yn Zambia, i fam o Zambia a milfeddyg gwyn o Gymro yn hanu o Aberogwr, rwy’n gwybod sut beth yw profi rhagfarn a bod pobol yn cwestiynu eich safle yn eich cymuned,” meddai’r Aelod Llafur dros Dde Caerdydd a Phenarth.
“Dydw i ddim eisiau i neb yng Nghymru deimlo felly.”
Mae blaenoriaethau Jeremy Miles yn cynnwys cymryd pob cam posib i wahardd arferion trosi a datblygu targedau uchelgeisiol newydd o dan y cynllun gweithredu LHDTC+.
Mae hefyd yn addo cyd-ddatblygu cyfres o dargedau ar gyfer Cymru Wrth-hiliol, a sicrhau bod mwy o gynrychiolaeth o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn swyddi cyhoeddus.
Yn ychwanegol at hynny, mae eisiau ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobol Anabl o fewn cyfraith Cymru, er mwyn cau’r bwlch anabledd.
Iechyd
O ran Iechyd, mae Vaughan Gething yn addo cyflwyno Cyfamod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gymru newydd, gydag uchelgais newydd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd.
Mae’n dweud y bydd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn aros yn nwylo’r cyhoedd, ac na fydd gwasanaethau fyth yn cael eu gwerthu.
Mae hefyd yn ymrwymo i fuddsoddi mewn technoleg fyddai’n symleiddio prosesau, a hyrwyddo arloesedd mewn gofal iechyd.
Mae eisiau gweld canlyniadau i gleifion yn cael ei flaenoriaethu, drwy ddysgu oddi wrth arferion rhyngwladol.
Mae hefyd yn dweud y bydd yn sicrhau cefnogaeth a gwerthfawrogiad i ofalwyr di-dâl, ac yn blaenoriaethu buddsoddi mewn iechyd meddwl.
Mae Jeremy Miles hefyd yn addo mynd i’r afael ag anghenion gofal iechyd.
Yn ôl yr ymgeisydd, mae’n awyddus i graffu ar ddata er mwyn sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn diwallu anghenion menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobol LHDT+.
Mae hefyd eisiau gweld yr un parch yn cael ei ddangos i iechyd meddwl ag iechyd corfforol, a chryfhau’r cydweithio rhwng byrddau iechyd, meddygon teulu ac awdurdodau lleol.
Mae’n anelu hefyd i ddileu’r elw o ofalu am blant sydd mewn gofal.
Yr economi
Yr economi yw blaenoriaeth Jeremy Miles, ac mae’n mynnu bod Cymru’n “wlad sydd yn rhy dlawd o hyd”.
Dywed ei fod am weithio i annog pobol ifanc i aros yn lleol, a chryfhau economi’r wlad.
Mae Vaughan Gething eisiau lleihau effaith yr economi ar yr hinsawdd.
Mae hefyd yn nodi bod yn rhaid tyfu’r economi er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a lledaenu nifer y cyfleoedd sydd ar gael.
Amgylchedd
Mae creu swyddi gwyrdd yn flaenoriaeth gan Vaughan Gething, ac mae’n credu mai ffyniant gwyrdd sydd wrth galon amddiffyn dyfodol Cymru.
Yn ôl Jeremy Miles, mae’r gallu i gynhyrchu dur mewn modd amgylcheddol gynaliadwy yn hanfodol ar gyfer dyfodol economaidd Cymru.
Mae hefyd eisiau gweld fframwaith newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer targedau bioamrywiaeth, er mwyn ceisio dadwneud y gostyngiad.