Dylid dadansoddi canlyniad yr etholiad mewn dwy ffordd – yn wleidyddol ac yn economaidd. Y peth cyntaf, wrth gwrs, yw fod y Torïaid wedi colli, yn hytrach na bod Llafur wedi ennill – roedd canlyniad yr etholiad yn anochel, gan roi i Lafur y cyfle i fod yn annelwig wrth drafod unrhyw fater arwyddocaol.
Roedd diffyg cyffro yn yr ymgyrch, gan adlewyrchu’r ffaith fod yr etholwyr wedi’u dadrithio ac yn sinigaidd. O ystyried y materion difrifol yn wynebu’r Deyrnas Unedig (a thrwy hynny, Cymru hefyd), sef marweidd-dra economaidd, tlodi a chostau byw, doedd yna’r cymhelliant polisi difrifol. Roedd hyn, heb amheuaeth, yn egluro llwyddiant Reform, oedd wedi manteisio ar y rhwystredigaeth yma, gan ennill pleidleisiau heb orfod datblygu’r un polisi ystyrlon. O fyfyrio ar hyn, mae perygl gwaelodol i ddemocratiaeth. Mewn nifer o seddi, llai na hanner yr etholwyr oedd wedi bwrw eu pleidlais, felly enillodd nifer o’r aelodau seneddol seddi â phleidleisiau 10-20% o’r boblogaeth.
Doedd llwyddiant Llafur yng Nghymru’n ddim syndod, er nad oedd y gefnogaeth drwyddi draw mor gryf ag y bu yn y gorffennol. Ac roedd Reform yn gwneud cystal yn adlewyrchu anfodlonrwydd â gwleidyddiaeth mewn llefydd eraill yn y Deyrnas Unedig.
Datganoli a’r economi
Mae’r canlyniad yn bryder i Gymru. Dydy’r Llywodraeth Lafur newydd yn sicr ddim o blaid datganoli, er nad ydyn nhw’n wrth-ddatganoli chwaith, ac mae unrhyw estyniad i bwerau’r Senedd neu gynyddu ei chyllid yn annhebygol iawn. Mae llwyddiant Reform yn bryder mwy dwys. Bydd defnyddio cynrychiolaeth gyfrannol yn etholiadau’r Senedd yn 2026 yn ddiau yn gweld y blaid yn dychwelyd nifer o aelodau. Waeth beth mae ei harweinwyr yn ei ddweud, plaid genedlaetholgar Seisnig yw hi.
Yr economi. Y realiti yw nad oes gan y Deyrnas Unedig arian, ac er gwaethaf unrhyw bolisïau (annelwig) Llafur, ychydig iawn o le sydd i symud. Mae trethu ar ei lefel uchaf ers yr Ail Ryfel Byd, ac mae’r Ddyled Genedlaethol ar ei ffordd tuag at £3tr syfrdanol. Roedd £107bn wedi’i fenthyg hyd at Chwefror 2024; pe bai economi’r Deyrnas Unedig yn tyfu gan 1.5% annhebygol, mae dyled yn debygol o hyd o dyfu £30bn y flwyddyn ar gyfartaledd.
Mae gan Keir Starmer ddau ddewis – cynyddu faint sy’n cael ei fenthyg – a dyw e ddim yn gallu gwneud hynny – neu gynyddu trethi, ac mae e wedi addo peidio gwneud hynny.
Mae’r Banc Setliadau Rhyngwladol eisoes wedi rhybuddio bod benthyg pellach yn anghynaliadwy ac y gallai ansefydlogi marchnadoedd ariannol.
Er gwaethaf hynny, mae’r cyfryngau (yn eu hobsesiwn ynghylch Nigel Farage) wedi methu’n dawel fach ag adrodd am un addewid gwario mawr. Mae Starmer wedi addo cynnal yr arfau niwclear ataliol ac adeiladu pedair llong danfor niwclear arall. Bydd hyn yn costio oddeutu £200bn. Bydd y rheiny ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn ddiau yn falch o glywed hyn.
Y casgliad yw nad yw pethau am wella, yn syml iawn; i’r gwrthwyneb, maen nhw’n sicr o fynd yn waeth.