Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddefnyddio Datganiad y Gwanwyn i gymryd “camau ystyrlon” i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.
Mewn llythyr at Ganghellor y Trysorlys, galwodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, ar Lywodraeth San Steffan i “weithredu nawr a sefyll gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu ymateb llawn i’r argyfwng costau byw”.
Bydd Rishi Sunak yn cyhoeddi Datganiad y Gwanwyn heddiw (dydd Mercher, Mawrth 23), ac yn ôl Llywodraeth Cymru, mae penderfyniadau Llywodraeth San Steffan ar gymorth diweithdra, newidiadau i gredyd cynhwysol, a chynnydd mewn trethi ar incwm yn ychwanegu at y pwysau ar aelwydydd.
Mae Rebecca Evans yn galw ar i’r gyfradd uwchraddio budd-daliadau lles – sydd ar 3.1% ar hyn o bryd – gael ei chynyddu’n sylweddol yng nghyd-destun lefelau chwyddiant, y disgwylir iddynt gyrraedd bron i 8% erbyn mis Ebrill.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru’n galw am wrthdroi’r penderfyniad i ddileu’r cynnydd o £20 i gredyd cynhwysol.
Yn ôl Rebecca Evans, does dim modd dadlau yn erbyn yr achos dros godi treth ffawdelw (windfall tax) ar yr elw sy’n cael ei wneud gan gwmnïau ynni mawr, er mwyn defnyddio’r arian i gefnogi aelwydydd sy’n agored i niwed.
Mae awgrymiadau eraill gan Lywodraeth Cymru’n cynnwys cyflwyno tariffau ynni incwm isel i dargedu cymorth yn well i aelwydydd incwm is, a darparu cymorth pellach a chynyddol drwy’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes a chynlluniau taliadau tanwydd gaeaf eraill.
‘Gwrando a gweithredu’
Dywed Rebecca Evans fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £330m i gefnogi pobol drwy’r argyfwng costau byw, “sef bron i ddwbl y cymorth cyfatebol yn Lloegr”.
“Ond gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y mae’r dulliau allweddol i wneud hyn, yn enwedig drwy’r system dreth a budd-daliadau, i gynnig mwy o amddiffyniad ariannol i bobl,” meddai.
“Mae’r argyfwng costau byw yn real iawn i bobl, ac mae disgwyl iddo waethygu o fis Ebrill ymlaen.
“Ni all neb fforddio tanbrisio difrifoldeb yr heriau sy’n ein hwynebu. Mae’r awgrymiadau rydym wedi’u gwneud yn fesurau effeithiol, ymarferol a fyddai’n helpu pobl i dalu biliau a rhoi bwyd ar y bwrdd.
“Nawr mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrando, gweithredu a sefyll gyda ni i ddarparu ymateb llawn i’r argyfwng costau byw.”
Ynghyd â hynny, mae Rebecca Evans yn galw ar Rishi Sunak i gymryd camau i sicrhau diogelwch ynni’r Deyrnas Unedig, mewn ymateb i’r argyfwng geowleidyddol sy’n deillio yn sgil y gwrthdaro yn Wcráin.
Mae hi’n galw am fwy o fuddsoddiad i gymell cynhyrchu ynni adnewyddadwy er mwyn cyrraedd targedau sero net a chefnogi system adnewyddadwy ynni domestig fwy gwydn.