Fe fydd galwad yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 23) i sefydlu fforwm i gynrychioli cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd.

Yn ystod y Cyfarfod Llawn, fe fydd Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn galw am sefydlu Fforwm Llifogydd Cymru i gyd-fynd â’r rhai sydd eisoes yn yr Alban a Lloegr.

Mae cannoedd o bobol yn ei rhanbarth hi yng Nghanol De Cymru wedi cael eu heffeithio gan lifogydd difrifol yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae hi wedi ymgyrchu’n gyson am weithredu ar y mater.

Daw’r alwad ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi £214m o gyllid ychwanegol i amddiffyn cymunedau Cymru rhag llifogydd, yn dilyn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng y llywodraeth a Phlaid Cymru.

‘Rhaid inni wneud mwy’

Teimla Heledd Fychan, sydd hefyd yn gynghorydd dros dref Pontypridd, nad yw’r arian hynny yn ddigon ar ei ben ei hun, a bod angen y gefnogaeth ymarferol fyddai’n deillio o sefydlu fforwm.

Cyn y ddadl heddiw, mae hi wedi amlinellu’r buddion a ddaw o sefydlu Fforwm Llifogydd Cymru.

“Wedi gweld gyda fy llygaid fy hun yr effaith dinistriol o lifogydd ar gymunedau ledled fy rhanbarth, a’r trawma a’r gofid parhaus, credaf fod rhaid inni wneud mwy i helpu a chefnogi cymunedau sydd yn wynebu risg o lifogydd,” meddai.

“Tra’n croesawu’r buddsoddiad ychwanegol i fesurau rhwystro llifogydd, ni fydd pob cartref a busnes yn cael eu hamddiffyn ac mae rhaid inni wneud mwy i helpu a chefnogi’r rheiny sy’n parhau i wynebu risg.

“Byddai Fforwm Llifogydd Cymru yn llais i gymunedau, gan ddarparu cefnogaeth ymarferol yn ogystal ag eirioli ar eu rhan.’’