Mae Plaid Cymru wedi lansio deiseb seneddol yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r llifogydd sydd wedi taro ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf eleni.
Yn ôl y blaid, mae angen ymchwiliad ar frys i ddarganfod achosion sylfaenol y llifogydd hyn er mwyn dal y rheini sy’n gyfrifol yn atebol, datrys y problemau ac amddiffyn cymunedau rhag llifogydd yn y dyfodol.
Mae trefnwyr y ddeiseb yn beirniadu Llywodraeth Cymru am wrthod cytuno i ymchwiliad cyhoeddus, gan ddweud bod hyn er gwaethaf y ffaith fod y Blaid Lafur ei hun wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus ar y llifogydd a fu yn Lloegr.
Mae dros 5000 o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb hyd yma. Mae hyn yn golygu ei bod wedi croesi’r trothwy sy’n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgor Deisebau’r Senedd ystyried y ddeiseb ar gyfer dadl.