Mae o leiaf 14 o bobl wedi cael eu lladd wrth i Gorwynt Laura daro arfordir talaith Louisiana.

Mae miloedd o bobl heb ddwr na thrydan yn sgil difrod y storm, ac wrth i’r gwaith o lanhau a chlirio gychwyn, mae pryder y gallai gymryd wythnosau neu fisoedd i adfer y cyflenwadau. Roedd o leiaf hanner y marwolaethau o ganlyniad i wenwyn carbon monocsid o generaduron diffygiol.

Yn ôl llywodraethwr Louisiana, John Bel Edwards, Corwynt Laura, gyda gwyntoedd o 150 milltir yr awr, yw’r un mwyaf pwerus erioed i daro’r dalaith. Roedd yn gryfach na Chorwynt Katrina hyd yn oed, a achosodd y fath drychineb yn New Orleans yn 2005.

Wrth i’r storm symud tua’r gogledd-ddwyrain, mae disgwyl i’r tywydd gwaethaf daro taleithiau Virginia a Gogledd Carolina heddiw, dydd Sadwrn ac o bosibl Newfoundland, Canada yn ddiweddarach.