Fe fu miloedd yn gorymdeithio yn Washington DC ddoe (dydd Gwener) yn erbyn y trais mae pobl ddu yn dal i ddioddef yn America.
Roedd mab Martin Luther King ymhlith y rhai i annerch y dorf o gofeb Lincoln, lle traddododd ei dad ei araith enwog ‘Mae gen i freuddwyd’ 57 mlynedd i’r diwrnod ynghynt.
“Rhaid inni beidio byth ag anghofio’r hunllef Americanaidd o drais hiliol fel pan gafodd Emmett Till ei lofruddio ar y diwrnod hwn yn 1955 a phan fethodd y system cyfiawnder troseddol â chollfarnu’r rhai a’i lladdodd,” meddai Martin Luther King III.
“Chwe deg pump o flynyddoedd yn ddiweddarach (wedi llofruddiaeth y bachgen 14 oed yn Mississippi), rydym yn dal i frwydro dros gyfiawnder ac yn datgan mor benderfynol ag y gallwn fod bywydau pobl ddu yn cyfrif.”
Un arall i annerch y dorf oedd tad Jacob Blake, y dyn du 29 oed a gafodd ei saethu a’i barlysu gan blismyn yn Wisconsin ddydd Sul diwethaf.
“Mae dwy system gyfiawnder yn yr Unol Daleithiau,” meddai Jacob Blake Sr. “Mae system i bobl wyn a system i bobl ddu – a dyw’r system ddu ddim yn gwneud cystal. Dim cyfiawnder, dim heddwch!”
Roedd llawer a oedd yno’n gwisgo crysau T yn cofio’r cyngreswr John Lewis, a fu farw’r mis diwethaf. Ef oedd yr olaf o areithwyr yr orymdaith wreiddiol yn Washington yn 1963 a ddaeth i gael ei gofio fel un o’r digwyddiadau gwleidyddiol mwyaf yn hanes America.