Mae Llywodraeth Cymru yn annog Cymry sy’n dychwelyd o’u gwyliau dramor i gadw at reolau cwarantin er mwyn atal lledaeniad coronafeirws.

Yn ôl y Llywodraeth mae clystyrau o achosion positif diweddar yng Nghymru yn deillio o bobol sydd wedi dychwelyd o’u gwyliau, ond heb hunanynysu am 14 diwrnod yn ôl y gofyn.

Cyfrifoldeb teithwyr yw gwirio a oes angen iddynt hunanynysu ar ôl dychwelyd i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa pobol bod gall y rhestr newid ar unrhyw adeg.

“Mae cyfraddau trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned yn isel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae’n bwysig bod hynny’n parhau fel y gallwn gadw’r rhyddid newydd sydd wedi’i gyflwyno”, meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Mae’r rheol cwarantin 14 diwrnod yn berthnasol i bobol sy’n dychwelyd adref o rai gwledydd sydd â chyfraddau trosglwyddo uwch. Mae’n hanfodol bod unrhyw un sy’n dychwelyd o’r gwledydd hyn yn hunanynysu ac yna yn archebu prawf os ydynt yn datblygu symptomau.

“Gall ymddygiad difeddwl gan y lleiafrif roi rhai o’r bobol fwyaf agored i niwed mewn perygl o ddal yr haint.”

Wythnos diwethaf cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd byddai rhaid i bobol sydd yn dychwelyd o’r Swistir, Jamaica a’r Weriniaeth Tsiec i Gymru hefyd hunan ynysu am 14 diwrnod.