Mae deg o blant wedi cael eu lladd gan fellten yn Uganda, mewn tref anghysbell gerllaw’r ffin â’r Congo.

Roedd y plant, rhwng 9 a 16 oed, yn cysgodi rhag y glaw mewn ty to glaswellt pan drawodd y fellten nos Iau. Roedden nhw wedi bod yn chwarae pêl-droed mewn cae cyfagos, a chafodd pedwar o blant eraill eu hanafu.

Mae mellt marwol yn gyffredin yn nwyrain Affrica yn ystod y tymhorau gwlyb, ac mae achosion o blant yn cael eu taro yn eu hystafell ddosbarth yn yr ysgol.