Mae casinos yng Nghymru yn cael ailagor o heddiw ymlaen wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio ymhellach.

Daw hyn ar ôl i gasinos yn Lloegr a’r Alban ailagor yn gynharach y mis yma.

Mae amrywiaeth o fesurau diogelwch wedi cael eu cyflwyno i sicrhau diogelwch staff a chwsmeriaid, gan gynnwys sgriniau plastig, systemau olrhain a rheolau llym ar gadw pellter cymdeithasol.

Mae pedwar casino yng Nghymru, er nad oes yr un y tu allan i Gaerdydd ac Abertawe. Rhyngddyn nhw, maen nhw’n cyflogi tua 300 o bobl.

Meddai Carl Hoogwerf, rheolwr cyffredinol y Grosvenor Casino yng Nghaerdydd: “Rydym yn falch iawn ein bod ni’n gallu croesawu’n cwsmeriaid yn ôl i fwynhau ein casino yn ddiogel unwaith eto o’r diwedd, ar ôl profi bod ein safonau glendid a diogelwch yn mynd ymhellach na’r hyn sy’n ofynnol.”