Ar Ddiwrnod Cofio Cenedlaethol heddiw (dydd Mercher, Mawrth 23), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi safle’r drydedd goedlan goffa Cymru.

Bydd y drydedd goedlan yn cael ei phlannu yng Nghwmfelinfach yng Nghaerffili, er mwyn cofio am yr holl bobol fu farw yn ystod y pandemig.

Mae hi’n ddwy flynedd ers i’r cyfnod clo cyntaf ddod i rym, ac mae gwleidyddion wedi bod yn ymuno â miliynau o bobol eraill dros y Deyrnas Unedig i gofio am y rhai a gafodd eu colli a’r rhai sy’n dal i fyw gyda’r galar.

Dechreuodd y gwaith o blannu coedlan goffa yn ar Ystâd Erddig yr wythnos hon hefyd, ac yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y coedlannau’n symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig ac yn symbol o adfywio ac adnewyddu wrth iddyn nhw dyfu.

‘Symbol o gryfder’

Y gobaith yw y byddan nhw’n cynnig rhywle i deuluoedd a ffrindiau allu cofio am eu hanwyliad, ac yn rhywle i’r cyhoedd adlewyrchu am y pandemig a’i effaith ar eu bywydau.

“Rydyn ni i gyd wedi byw ein bywydau yng nghysgod y pandemig ers dwy flynedd,” meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

“Mae’r pandemig wedi cael effaith ar bob agwedd ar ein bywydau ac mae nifer ohonon ni wedi aberthu llawer.

“Mae gormod o bobol wedi colli aelodau o’r teulu, anwyliaid neu ffrindiau.

“Bydd y coedlannau hyn yn fannau coffa byw a pharhaol er cof am bawb sydd wedi marw.

“Byddan nhw hefyd yn symbol o’r cryfder y mae pobol Cymru wedi’i ddangos dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Caiff ffilmiau byr eu dangos ar-lein heddiw o gerdd a gafodd ei hysgrifennu’n wreiddiol gan Ifor ap Glyn ar gyfer Digwyddiad Coffa Cenedlaethol llynedd i nodi blwyddyn ers dechrau’r pandemig.

Cafodd ‘Dod at ein coed’, neu ‘Tree sensibility’, ei hysgrifennu mewn ymateb i’r cyhoeddiad i blannu’r coedlannau.

‘Ychydig o gysur’

Dros yr wythnos hon, mae coed wedi cael eu plannu yng Nghoedlan Goffa Erddig ar safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Wrecsam.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi darparu naw hectar er mwyn plannu’r coed, a bydd yr ardal yn cynnwys cynefinoedd pwysig ar gyfer bywyd gwyllt, megis llynnoedd, perthi a dolydd, meddai.

“Heddiw rydym yn dod ynghyd i nodi cyfnod ingol ac i fyfyrio ar yr heriau yr ydym ni i gyd wedi’u hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

“Gobeithiwn y bydd y goedlan hon yn rhoi ychydig o gysur i’r teuluoedd sydd yn ein cwmni ni heddiw ac i bawb sydd wedi colli rhywun agos iddynt yn ystod y pandemig.

“Mae’n fraint gennym ddarparu’r lle arbennig hwn yn Erddig er mwyn cofio am y bobl hynny ac edrychwn ymlaen at greu’r goedlan a gofalu amdani am byth, er mwyn pawb.”

‘Atgof bythol’

Daeth staff yr ymddiriedolaeth, Ysgrifennydd Materion Gwledig a Gogledd Cymru Lesley Griffiths, teuluoedd lleol sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig, ac aelodau o’r gymuned i’r digwyddiad.

Dywed Andrea Williams, cynrychiolydd o Grŵp Cymru Teuluoedd Covid-19, fod plannu coedlan goffa yn golygu cymaint iddi ac aelodau eraill o’r grŵp.

“Bydd yn lle i eistedd a myfyrio’n dawel ar ein hanwyliaid a’r bywydau y gwnaethom eu rhannu,” meddai.

“Bydd pob unigolyn a gafodd ei golli yn sgil Covid-19 yng Nghymru yn cael ei gofio drwy blannu coedlannau coffa, yn symbol o ddechrau newydd a gobaith ar gyfer y dyfodol mewn cyfnod pan mae nifer ohonom ni’n ei chael hi’n anodd pennu sut beth yw’r dyfodol heb ein hanwyliaid.

“Bydd y goedlan yn atgof bythol o’r rheini a gollwyd yn y pandemig, ac yn sicrhau na fyddant yn angof.”

Mae’r goedlan goffa arall wedi’i lleoli yn Brownhill yn Nyffryn Tywi yn sir Gaerfyrddin.

‘Heriau, aberthau, a datblygiadau’

Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn ymuno yn y cofio heddiw hefyd.

“Mae heddiw’n nodi dwy flynedd ers y cyfnod clo cyntaf ac fel y gwyddom, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae gormod o bobl wedi colli eu bywydau i Covid-19,” meddai’r ddau mewn datganiad ar y cyd.

“Rydym hefyd yn cofio’r rhai yr ydym wedi eu colli oherwydd salwch eraill a rhwystredigaeth a thor-calon eu teuluoedd a fethodd ffarwelio’n bersonol â hwy, na chysuro’i gilydd fel y byddem mewn amseroedd arferol.

“Mae ein meddyliau heddiw gyda phawb sydd wedi colli anwyliaid.

“Mae’r Diwrnod Cofio Cenedlaethol yn gyfle i ni gyd ddod at ein gilydd a myfyrio gyda’n gilydd ar yr heriau rydym wedi’u hwynebu, yr aberthau a wnaed a’r datblygiadau aruthrol mewn gwyddoniaeth sydd wedi ein galluogi i oresgyn cyfnod tywyll iawn yn ein hanes.

“Hoffwn dalu teyrnged i sut yr ymatebodd ein hetholwyr yn Nwyfor Meirionnydd ac Arfon ynghyd a phobol Cymru gyfan i’r her wrth i ni edrych ymlaen at ddyddiau gwell o’n blaenau.”