Bydd y Canghellor Rishi Sunak yn datgelu ei Ddatganiad Gwanwyn yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher, Mawrth 23) yn sgil cynnydd enfawr mewn costau ynni, tanwydd a bwyd.

Mae disgwyl iddo gyhoeddi mesurau i helpu pobol gyda chostau byw, gan gynnwys torri treth tanwydd.

Mae wedi dod o dan bwysau cynyddol i weithredu, gyda phrisiau’n codi 6.2% yn y 12 mis hyd at fis Chwefror – y cyflymaf ers 30 mlynedd.

Fodd bynnag, mae yna alwadau gan feinciau’r Blaid Lafur am iddo fynd ymhellach a chael gwared ar godiad treth arfaethedig fis nesaf.

Mae disgwyl i Yswiriant Gwladol godi 1.25c yn y bunt – ond mae’r blaid wedi dweud mai’r cynnydd yw’r ffordd anghywir o ariannu buddsoddiad.

Mae Rishi Sunak wedi diystyru dileu’r cynnydd i Yswiriant Gwladol, ond mae’n bosib y gallai ganiatáu i bobol ennill mwy cyn iddyn nhw orfod dechrau ei dalu.

Bydd yr holl fanylion yn cael eu cyhoeddi gan y Canghellor am 12:30yp.

Beth yw Datganiad y Gwanwyn?

Mae Datganiad y Gwanwyn fel arfer yn gyfle i’r Canghellor gyhoeddi ffigyrau newydd ar sut mae’r economi yn perfformio ac i amlinellu’r cynnydd, neu ddiffyg cynnydd, a wnaed ers ei gyllideb ym mis Hydref.

Fel rheol, dydy e ddim mor arwyddocaol â Datganiad yr Hydref, ond eleni, mae llawer o bwysau ar Rishi Sunak i gynnig atebion i’r argyfwng costau byw, gyda chostau tanwydd, bwyd ac ynni cynyddol.

Mae disgwyl i’r Canghellor ddweud y bydd y rhyfel yn Wcráin parhau i achosi cynnydd yn y prisiau hyn.

Mae disgwyl i’w ddatganiad hefyd nodi cynlluniau’r Llywodraeth “i greu diwylliant newydd o fenter”, gan gynnwys mwy o hyfforddiant a buddsoddiad.