Mae elusennau wedi dod ynghyd i alw ar lywodraethau gwledydd y Deyrnas Unedig i ddal cwmnïau yn atebol am eu holl sbwriel.

Daw hyn ar ôl i adrannau amgylchedd y pedair llywodraeth gynnig polisi newydd yn amlinellu’r posibilrwydd y byddai cwmnïau sy’n cynhyrchu pecynnau yn gyfrifol am eu gwastraff.

Ond mae’n debyg bod hynny bellach o dan bwysau sylweddol, a bod llywodraethau dan bwysau i beidio â chyflwyno polisi o’r fath ac eithrio taliadau sbwriel, gyda nifer o lobïwyr yn honni mai’r cyhoedd sydd ar fai am unrhyw lygredd sbwriel.

Mae elusennau amgylcheddol yn y pedair gwlad, gan gynnwys Cadwch Gymru’n Daclus, wedi ymuno yn yr alwad i barhau â chynlluniau gwreiddiol y polisi Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr newydd.

Roedden nhw o’r farn mai’r cynhyrchwyr ddylai dalu oherwydd mai nhw sy’n rheoli faint o ddeunydd pacio sydd yn y farchnad ac yn elwa o hynny.

‘Baich ariannol mawr ar arian cyhoeddus’

Mewn arolwg diweddar, fe wnaeth yr ymgynghorwyr cynaliadwyedd, Eunomia, amcangyfrif fod rheoli sbwriel deunydd pacio yn costio tua £384m i awdurdodau lleol bob blwyddyn.

Dydy’r ffigwr hwnnw ddim yn cynnwys y gost i gyrff eraill, megis awdurdodau trafnidiaeth, na’r gost o adeiladu ymgyrchoedd atal sbwriel chwaith.

Roedd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, yn pryderu’n fawr am yr effaith ariannol ar gynghorau sir.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael eu dwyn i gyfrif am ddeunydd pacio gormodol, diangen, wedi ei ddylunio’n wael,” meddai.

“Datgelodd arolygon glendid strydoedd diweddar raddau llawn ein problem gyda deunydd pacio, gyda deunydd pacio wedi ei ollwng fel sbwriel yn cael ei ganfod ar 64% o strydoedd yng Nghymru.

“Ar hyn o bryd, mae’r cyfrifoldeb dros fynd i’r afael â’r mater hwn gyda’n hawdurdodau lleol, sydd eisoes o dan straen, ac mae’n faich ariannol mawr ar arian cyhoeddus.

“Credwn y gallai taliadau sbwriel drwy bolisi Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr newid popeth, gan drawsnewid y ffordd y mae’r sector preifat yn cefnogi glanhau strydoedd, gweithredu cymunedol a gweithgareddau atal sbwriel.”