Dydy’r system diogelwch cymdeithasol ddim yn gweithio i rentwyr yng Nghymru, yn ôl ymchwil newydd.
Yn ôl Sefydliad Bevan, mae miloedd o bobol dros y wlad yn cael eu gadael lawr gan y Lwfans Tai Lleol.
Pwrpas y Lwfans Tai Lleol yw penderfynu faint o gymorth ariannol mae aelwydydd incwm isel sy’n rhentu’n breifat yn ei gael tuag at gostau tai drwy’r system fudd-daliadau.
Mae ymchwil newydd gan Sefydliad Bevan yn dangos bod y Lwfans Tai Lleol ond yn ddigon i dalu rhent un ym mhob 25 tŷ sydd wedi’u hysbysebu ar y farchnad.
‘Penderfyniad amhosib’
Yn ôl Sefydliad Bevan, mae rhai landlordiaid yn gwaethygu’r broblem drwy ofyn am flaendaliadau mawr, incymau o hyn a hyn, a manylu eu bod nhw ond yn chwilio am ‘bobol broffesiynol’.
Mae’r cyfyngiadau’n rhwystro pobol sy’n derbyn budd-daliadau, meddai, gan olygu mai dim ond dau o bob 100 tŷ sydd wedi’u hysbysebu sy’n derbyn pobol ar incwm isel ac yn fforddiadwy iddyn nhw.
“Mae’r bwlch sylweddol sydd wedi datblygu rhwng Lwfans Tai Lleol a rhent yn gadael nifer o aelwydydd yn wynebu penderfyniad amhosib: symud i eiddo lle mae’r rhent yn uwch na chyfradd y Lwfans Tai Lleol neu geisio cymorth drwy’r system ddigartrefedd,” meddai Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan.
Ychwanega Ruth Power, Prif Weithredwr Shelter Cymru, fod rhent preifat wedi cynyddu yn gyflymach yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.
“Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r Lwfans Tai Lleol wedi aros yr un fath, yn gynyddol analluog i wneud ei waith o helpu pobol i fforddio gallu aros yn eu cartrefi,” meddai.
“Mae ymchwil Sefydliad Bevan wedi bod yn eithriadol o ddefnyddiol yn dangos graddfa’r her rydyn ni’n ei hwynebu yng Nghymru – heriau y mae pobol sy’n ceisio cymorth Shelter Cymru yn rhy gyfarwydd â nhw.
“Mae’r datrysiadau y maen nhw wedi’u hadnabod yn realistig ac rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi’r ystyriaeth y maen nhw’n eu haeddu.”
Gwarant Cartrefi Cymru
Yn ôl Sefydliad Bevan, mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ran o’r ateb, drwy sicrhau bod y Lwfans Tai Lleol yn cyfateb â chostau tai lleol.
Ond maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i weithredu er mwyn sefydlu ‘Gwarant Cartrefi Cymru’.
Byddai hynny’n sicrhau bod pobol sy’n ddigartref neu’n cael eu bygwth â digartrefedd yn gallu cael mynediad at dŷ addas, gydag awdurdodau lleol yn ymddwyn fel gwarantwyr ac yn helpu i dalu’r rhent yn llawn.
“Byddai sefydlu Gwarant Cartrefi Cymru yn sicrhau bod pobol ddigartref a phobol sy’n cael eu bygwth â digartrefedd yn gallu dod dros rwystrau ariannol a rhwystrau eraill i ddod o hyd i gartref addas,” meddai Hugh Kocan, prif ymchwilydd y gwaith.
“Gallai darparu adnoddau i awdurdodau lleol weithredu fel gwarantwyr ac amlhau eu Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai, er enghraifft, helpu rhai o’r problemau sy’n cael eu creu gan y Lwfans Tai Lleol.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym am i bawb gael mynediad i gartref addas, fforddiadwy a diogel ac rydym yn rhannu pryderon Sefydliad Bevan am lefel isel y Lwfans Tai Lleol a bennwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae Gweinidogion yn parhau i godi hyn gyda’u cymheiriaid yn Whitehall,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Fel y nodir yn y Cytundeb Cydweithio, byddwn yn cyhoeddi cynigion i fynd i’r afael â’r materion hyn, gan gynnwys dulliau newydd o wneud cartrefi’n fforddiadwy i bobl leol a sut y gallai system o renti teg helpu i wneud y farchnad rhentu preifat yn fforddiadwy.
“Yn y cyfamser, rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol fel eu bod yn gallu helpu pobl i gael gafael ar dai. Rydym hefyd yn cyflwyno ein Cynllun Lesio newydd i Gymru i gynyddu mynediad i dai fforddiadwy yn y sector rhentu preifat.”