Mae cynlluniau ar gyfer ysgol Gymraeg newydd ym Mhenfro wedi cael eu cymeradwyo er gwaethaf pryderon am draffig a mynediad i’r safle.
Cafodd cynllun Cyngor Sir Benfro i adeiladu ysgol gynradd ar gyfer 210 o ddisgyblion drws nesaf i ysgol uwchradd y dref eu trafod gan gynghorwyr heddiw (Dydd Mawrth, 8 Chwefror).
Fe wnaeth nifer o aelodau o’r pwyllgor cynllunio godi pryderon ynghylch cynnydd yn lefel y traffig, diogelwch cerddwyr, a mynediad i’r safle.
Aeth rhai mor bell â dweud nad y lleoliad hwnnw yw’r safle gorau ar gyfer yr ysgol.
“Dw i wir yn amau pwyll rhai o’r bobol sydd eisiau rhoi hi yno pan mae yna safle ddelfrydol lai na hanner milltir i ffwrdd,” meddai’r Cynghorydd Tony Wilcox gan gyfeirio at safle hen Ysgol St Mary, sydd ddim yn berchen i’r cyngor.
Bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar 3.3 hectar o dir drws nesaf i Ffarm Glan-y-Môr, Bush Hill – gyda mynediad ymlaen at Bush Hill – a bydd yn cynnwys ardal gemau amlddefnydd, cae chwarae, a maes parcio.
Bydd adeilad yr ysgol gynradd, a fydd yn cynnwys darpariaeth blynyddoedd cynnar, yn un llawr ond bydd dau lawr mewn rhai rhannau o’r adeilad.
Fe fydd yna le i 210 o ddisgyblion rhwng pump ac 11 oed yn yr ysgol, yn ogystal â 30 lle i blant meithrin a darpariaeth Cylch Meithrin.
Dangosodd ymgynghoriad cyhoeddus bod yna alw am ddarpariaeth Gymraeg llawn yn yr ardal, a derbyniodd y datblygiad gymeradwyaeth y cyngor ym mis Hydref 2020.
Cafodd amodau cynllunio megis mesurau lliniaru traffig eu cymeradwyo yn gysylltiedig â’r cais.