Mae Syr Lindsay Hoyle wedi rhybuddio ASau am “sylwadau ymfflamychol” ac wedi gofyn am esboniad gan Heddlu’r Metropolitan ar ôl i Syr Keir Starmer gael ei dargedu gan brotestwyr ger y Senedd.

Ailadroddodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin ei bod yn “amhriodol” i Boris Johnson honni bod Syr Keir Starmer yn gyfrifol am beidio ag erlyn y troseddwr rhyw Jimmy Savile.

Fe honnodd y Prif Weinidog fod Syr Keir Starmer wedi “defnyddio ei amser yn erlyn newyddiadurwyr ac wedi methu ag erlyn Jimmy Savile” tra’n Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP).

Cafodd Syr Keir Starmer ei gludo i gar heddlu i’w amddiffyn ger y Senedd ddydd Llun (7 Chwefror) wrth iddo wynebu cyhuddiadau ei fod wedi “diogelu pedoffiliaid”.

Ymddiheurodd Syr Keir Starmer am fethiant Gwasanaeth Erlyn y Goron i erlyn Savile tra roedd o’n Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn 2013.

Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth bod gan Syr Keir unrhyw rôl bersonol yn y methiant i erlyn Jimmy Savile cyn ei farwolaeth yn 2011.

Mewn o leiaf dau fideo a bostiwyd i’r cyfryngau cymdeithasol, mae modd clywed dyn a menyw yn gweiddi ar yr arweinydd Llafur am Jimmy Savile wrth iddo gerdded gydag ysgrifennydd tramor yr wrthblaid, David Lammy.

“Gwarthus”

Hyd yma, mae’r Prif Weinidog wedi gwrthod galwadau arno i ymddiheuro am ei sylwadau.

Wrth wneud datganiad i ASau, beirniadodd Syr Lindsay Hoyle yr “ymddygiad gwarthus”.

“Rwy’n gresynu at y ffaith bod aelodau’r Tŷ hwn yn dioddef ymddygiad bygythiol wrth wneud eu gwaith,” meddai.

“Rwy’n gwybod y bydd y Tŷ cyfan yn ymuno â mi i ddweud ein bod yn sefyll gyda’n cydweithwyr i gondemnio’r ymddygiad a brofwyd ganddynt hwy a’r heddlu.

“Er nad wyf yn gwneud sylwadau manwl ar faterion diogelwch ar lawr y siambr, rhaid i gamau fod ar waith i gadw pobl yn ddiogel wrth iddynt ddod i mewn a gadael yr ystâd seneddol.

“Rwyf wedi gofyn am adroddiad gan Heddlu’r Metropolitan ar sut y digwyddodd y digwyddiad hwn.

“Rwy’n gwybod bod y ffaith i Arweinydd yr Wrthblaid gael ei gam-drin ddoe yn ymwneud â honiadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn y siambr hon.

“Mae canlyniadau i’n geiriau a dylem bob amser fod yn ymwybodol o’r ffaith honno.”

Wrth iddo ddod dan ragor o feirniadaeth, fe wnaeth Boris Johnson drydar bod yr “ymddygiad a gyfeiriwyd” at yr arweinydd Llafur yn “gwbl warthus”.

Mae dau berson wedi cael eu harestio yn dilyn y digwyddiad, yn ôl Scotland Yard.