Mae Boris Johnson wedi bod yn gwneud newidiadau i’w dîm gweinidogol yn Rhif 10 heddiw (dydd Mawrth, 8 Chwefror).

Daw’r newidiadau yn dilyn penodi Stephen Barclay yn bennaeth staff y Prif Weinidog ac wrth i Boris Johnson geisio ailstrwythuro ei lywodraeth yn dilyn y ffrae am bartïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.

Mae’r Cymro Stuart Andrew wedi cael ei gyhoeddi’n Weinidog Tai newydd yn yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau.

Yn Aelod Seneddol dros Pudsey yng Ngorllewin Swydd Efrog, mae’n cael ei symud o fod yn ddirprwy Brif Chwip.

Mae’r newid yn golygu bod dau o’r Aelodau Seneddol uchaf yn swyddfa’r chwipiaid wedi cael eu symud o’u rolau gyda Mark Spencer wedi cael ei ddyrchafu fel Arweinydd Tŷ’r Cyffredin. Bydd Stuart Andrew yn awr yn gweithio gyda Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros agenda ‘Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig’.

Dyma’r 11eg Gweinidog Tai yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn 12 mlynedd.

Daw hyn wrth i Boris Johnson ad-drefnu ei dîm gyda Guto Harri, Cymro Cymraeg o Gaerdydd, yn derbyn un o’r prif swyddi yn Rhif 10, sef y Cyfarwyddwr Cyfathrebu.

Bu Stuart Andrew yn Weinidog yn Swyddfa Cymru rhwng mis Ionawr a Gorffennaf 2018. Cafodd ei fagu ar Ynys Môn a bu’n ddisgybl yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.

Jacob Rees-Mogg fydd y gweinidog a fydd yn gyfrifol am “gyfleoedd Brexit”. Roedd yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin cyn hyn, ac fe fydd yn parhau yn aelod o’r Cabinet yn ei rôl newydd.

Mae Mark Spencer wedi cael ei symud o fod yn Brif Chwip i fod yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin. Roedd wedi cael ei feirniadu am y modd roedd wedi delio gydag achosion o ddisgyblaeth ymhlith Aelodau Seneddol.

Chris Heaton-Harris sydd wedi’i benodi’n Brif Chwip newydd, meddai Downing Street.