Pa lyfrau fuodd golygyddion a gohebwyr Golwg a golwg360 yn ymgolli ynddyn nhw eleni?

Bethan Lloyd – Golygydd Lingo Newydd a Lingo360

Llyfrau coginio ydy fy mhleser darllen euog ac mae Casa Dolig, ail lyfr ryseitiau’r awdur a cholofnydd Golwg Rhian Cadwaladr, yn hynod o flasus. Yn wledd i’r llygaid, mae’n llawn atgofion difyr a’r math o ryseitiau sy’n teimlo fel cael eich lapio mewn blanced ar ddiwrnod oer. Perffaith…

Alun Rhys Chivers – Golygydd golwg360

Dwi ddim yn ddarllenwr brwd o lyfrau ffuglen fel arfer, ond dw i yn hoff o gyfresi trosedd ar y teledu, boed yn ffuglen neu’n droseddau go iawn. Braf o beth, felly, oedd darllen nofel Alun Ffred Jones, Gwynt y Dwyrain.

Roedd hi’n syndod gweld y gwleidydd yn codi ar ei draed yn y Pafiliwn ym Moduan, ond yn fawr o syndod o ddarllen ei nofel gyntaf – ac yntau â chefndir ym myd teledu – fod y delweddau’n neidio allan o’r tudalennau, y cymeriadau’n hoffus, yn dân ar eich croen, yn chwerthinllyd, yn rhwystredig ac yn hawdd cydymdeimlo â nhw, yn gymysg oll i gyd – yn union fel unrhyw gyfres drosedd ar y sgrîn fach. Y nofel berffaith i ddarllenwyr trosedd brwd neu i’r rheiny, fel fi, sy’n hoff o’r genre ar deledu. Ac wrth gwrs, mae yna ddigonedd o droeon trwstan.

Tu hwnt i hynny, mae’n sylwebaeth graff ar Gymru heddiw – o dai haf i golli Cymreictod a chymunedau, i’r berthynas rhwng pobol yn y Gymru Gymraeg sydd ohoni. Ond nid pregethu na chanfasio mo’r awdur chwaith.

Cadi Dafydd – Dirprwy Olygydd golwg360

Mae hi’n syndod i fi gael cystal gafael ar Y Cylch, ail nofel Gareth Evans-Jones, gan ’mod i wedi’i dechrau hi ar drên prysur gyda Gwyddel clên, ond hynod siaradus, yn gwmni yn y sêt wrth f’ochr. Ond, mae’n bosib fod hynny’n brawf o lwyddiant y llyfr – mi gydiodd yn syth.

Dw i ddim yn meddwl ’mod i erioed wedi darllen dim byd fel hyn yn Gymraeg, a dydy nofelau ffantasi ynglŷn â gwrachod ddim yn rhywbeth fyddai’n tueddu i apelio ata i. Ond wnes i ffeindio’n hun yn edrych ymlaen at fynd yn ôl at y cylch a’u problemau. Mae’r hiwmor ynddi’n dipyn o help hefyd, a golygfa absẃrd, ond ffraeth, pan mae ‘cath’ yn cael trafferth gyda gwrcath sy’n gwrthod gadael llonydd iddi’n sefyll allan.

Mewn ymgais i fynd drwy’r rhesi o lyfrau heb eu darllen sydd ar fy silff, ychydig iawn o rai newydd ddarllenais i eleni. Ond, fe wnaeth y Castell Siwgr gan Angharad Tomos argraff, a dw i’n ofnadwy o falch ’mod i wedi cyrraedd campwaith Alice Walker, The Color Purple – waw! Llyfr y dylai pawb ei ddarllen, waeth pa mor anodd ar adegau.

Barry Thomas – Golygydd Golwg

Wnes i fwynhau Y Delyn Aur gan Malachy Owain Edwards. Mae o’n adrodd ei hanes yn mynd ar siwrne i ddarganfod ei wreiddiau yn Werddon.

Mewn un olygfa ddoniol, mae o’n sdopio’r car mae o wedi ei logi draw ar yr Ynys Werdd, er mwyn mynd i brynu snacs a diod i’w gynnal ar y daith, ac yn dod allan o’r siop efo CD sy’n gasgliad o glasuron gwerin y Gwyddel. Ac mae o’n barod i gysylltu efo’i gyndeidiau drwy eu hen, hen ganeuon… ond erbyn gweld, does yna ddim chwaraewr CDs yn y car!

Stori arall ganddo sydd wedi aros yn y cof yw honno am ei Dad, oedd yn Gymro yn cael ei fagu oddi cartref yn Hong Kong yn y 1970au. Yn yr ysgol dyma’r athro yn gofyn wrth y dosbarth os oedd yna Gymry yn bresennol… wnaeth neb godi eu dwylo.

Ac ymateb yr athro? ‘Good. I hate the Welsh.’

Fe wnaeth yr un sylw hwnnw droi tad Malachy yn genedlaetholwr, ac aeth allan yn unswydd i chwilio am lyfr ar sut i ddysgu siarad Cymraeg… a ffeindio un… yn Hong Kong!

A naddo, wnes i ddim dewis llyfr Malachy achos fod o’n un o golofnwyr Golwg

Mae o wirioneddol yn ddifyr a ffresh ac yn sgwennu am bethau nad ydw i wedi eu gweld yn cael eu trafod yn Gymraeg o’r blaen.

Geshi flas garw ar Rhwng Bethlehem a’r Groes – Atgofion Trwy Ganeuon gan Barry ‘Archie’ Jones.

Cyn iddo ennill llond silff o wobrau BAFTA am greu cyfresi comedi Dim Byd a Run Sbit a Rybish, Archie oedd y boi ar y bâs oedd yn sgwennu caneuon Celt.

Fel mae’r teitl yn ddweud, fe gewch chi’r hanes tu ôl i’r tiwns yn y llyfr, ac mae’r dwys a’r digrif yma.

A’r peth amlwg i’w wneud yw rhoi caneuon Celt ymlaen wrth ddarllen.

Roeddwn i wedi anghofio gymaint o ganeuon gwych sydd ar yr albwm @.com, ac fe gewch chi eglurhad o’r darn operatig tua diwedd y gân ‘Rhwng Bethlehem a’r Groes’ yn y llyfr.

Mae’r darlun o’r ddau ddechreuodd y Celt cynnar yn ddoniol ac annwyl, gydag Archie’n ‘chwarae gitâr ac Alwyn yn curo’r soffa efo ffyn gwau ei fam, hynny nes iddo gael digon o bres i brynu dryms go-iawn’.

Non Tudur – Gohebydd Celfyddydau

Dinefe a dyna fe

Nid oedd Y Trên Bwled Olaf o Ninefe, casgliad o storïau byrion gan Daniel Davies, wedi gwneud llawer o argraff ar Eurig Salisbury, un o feirniaid y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod yn Nhregaron yn 2022. Mi oedd y casgliad, ysywaeth, wedi gwneud argraff ar ei gyd-feirniad, Dylan Iorwerth, ac mi wnaeth arnaf innau, ar ôl i Wasg Carreg Gwalch ei gyhoeddi rhwng dau glawr. Roedd wedi ei roi yn ail yn y gystadleuaeth, a bod yn deg. Oes, mae yma giwed eitha’ annymunol o ran cymeriadau, a sawl hen slebog a diogyn. Ond trwy eu llygaid nhw, fe welwn ni pwy yw dihirod go iawn ein cymdeithas – y grym dirgel anhysbys hynny sy’n ein rheoli ac yn mynnu ein bod ni’n at y cledrau, beth bynnag y bo’n hanian naturiol. Beirniadwyd y casgliad am atseinio gormod â llais yr awdur. Rhyfeddais: dyma lais y mae edmygydd y math yma o sgrifennu eisiau ei glywed. Un sy’n gwneud i chi wenu yn y duwch, a gweld y gwirionedd drwy’r fagddu. Campwaith.

Mae e mewn cwmni da, gyda nofelau newydd eleni gan awduron sy’n fedrus o ran sylwebu’n ddeheuig a chynnil ar gymdeithas, heb i chi sylwi, yn smala neu’n ffraeth, fel Aled Jones Williams (Raffl a Storïau Eraill), Mari Emlyn (Llyfr y Flwyddyn) a Myfanwy Alexander (Coblyn o Sioe). Wedyn mae nofelwyr crafog sy’n agor ein llygaid i’n hanes a’n diwylliant fel Angharad Tomos (Arlwy’r Sêr).

Eleni oedd y tro cyntaf i ddau o awduron gorau Ynys Môn, Sonia Edwards (Braw Agos) a Mared Lewis (Croesi Llinell), roi cynnig ar nofel dditectif, a gwneud hynny’n llwyddiannus yn fy marn i. Ac awdur arall, Alun Davies, yn creu ditectif newydd sbon (Pwy yw Moses John?) i ddisodli arwr poblogaidd ei dair nofel gyntaf, Taliesin MacLeavy. Gyda nofelau newydd gan sgwennwyr poblogaidd fel Bethan Gwanas (Gladiatrix), Marlyn Samuel (Dros fy Mhen a ‘Nghlustiau), Sioned Wiliam (Y Gwyliau), a John Alwyn Griffiths (Dan y Dŵr), bu’n glamp o flwyddyn i nofelau Cymraeg eto.

Hoffwn grybwyll ambell lyfr ffeithiol! Ffolais ar ‘Anwyl Fam’ Pererindod drwy’r Rhyfel Mawr (Carreg Gwalch) gan Ifor ap Glyn – sy’n mynd ar ôl hanes – ac ambell i sgwarnog – rhai o bobol gyffredin y rhyfel erchyll hwnnw. Cyfoeth o ymchwil a hanes, wedi’i adrodd yn rhwydd. A sôn am sgwarnogod… mae Y Clerwr Olaf (cyfres Atgofion drwy Ganeuon Carreg Gwalch) gan Twm Morys yn rhoi nifer o hanesion difyr am Bob Delyn a’r Ebillion – y grŵp a daniodd farwor y traddodiad gwerin yn nechrau’r 1990au. Bydd hiraeth ar ôl y gyfres yma – daeth yr olaf, Rhwng Bethlehem a’r Groes gan Barry ‘Archie’ Jones o’r grŵp Celt, allan at y Dolig. A rhaid rhoi mensh i Curiadau (gol. Gareth Evans-Jones), blodeugerdd uchelgeisiol o leisiau creadigol y gymuned LHDT+ – y cyntaf o’i bath yn y Gymraeg.

Nifer fechan o lyfrau da 2023 sydd yma – felly ewch i’ch siop llyfrau leol i ganfod un at eich dant chi.

Lleucu Jenkins – Cynhyrchydd Creadigol

Fy hoff lyfr o 2023 ydy Y Trên Bwled Olaf o Ninefe, Daniel Davies. Yn anaml iawn dw i’n darllen straeon byrion i gymharu â nofelau, yn enwedig straeon pulp, dychanol. Ond wedi i fy nghariad argymell i mi ddarllen y gyfrol fe wnes i wir ei mwynhau hi, mae’r cymeriadau rhyfedd a’r sefyllfaoedd swreal yn cyfuno i greu naratif sydd o hyd yn esblygu mewn ffyrdd diddorol. Yr elfen o’r casgliad roeddwn i’n ei hoffi fwyaf oedd y ffordd roedd pob stori yn cydblethu, gyda chymeriadau o straeon eraill yn ymddangos o bryd i’w gilydd, wnaeth greu diweddglo syfrdanol (heb sbwylio dim!).

Catrin Lewis – Gohebydd Seneddol

Merched Peryglus (gol. Angharad Tomos a Tamsin C Davies) – Dw i erioed wedi bod yn un sy’n mwynhau llyfrau ffuglen rhyw lawer a wastad wedi ffafrio clywed hanesion pobol go iawn.

Dydy o ddim yn llawer o syndod, felly, mai Merched Peryglus yw’r llyfr wnaeth sefyll allan i mi eleni.

Mae’n hawdd cymryd holl fuddugoliaethau’r iaith yn ganiataol, heb dalu llawer o ystyriaeth i’r holl ymdrechion a fu y tu ôl iddyn nhw.

Felly, dw i’n meddwl bod y gyfres yma o hanesion yn ffordd hynod bwysig o gofio a gwerthfawrogi holl aberth menywod Cymru dros y degawdau a gobeithio bydd yn golygu bod eu straeon yn aros yng nghof y genedl am flynyddoedd i ddod.

Lowri Larsen – Gohebydd Lleol

Y llyfr rwy wedi ei fwynhau fwyaf eleni ydy Llyfr y Flwyddyn gan Mari Emlyn. Mae’n nofel am ddyn sy’n casáu merched, Robin Richards. Nid oeddwn yn hoffi’r prif gymeriad o gwbl ond roedd ei stori am gloi ei wraig, Llinos, yn y seler yn cydio. Roeddwn yn hoffi Llinos, yn edmygu ei chreadigrwydd yn gwneud oragami a gallu sgwennu, ac wedi fy nghyffwrdd gan ei pherthynas â dyn ifancach oedd fel mab iddi.

Roedd brain yn is thema yn y nofel, ac yn wir yn gysgod tywyll Mabinogaidd dros yr oes fodern. Roedd y stori yn adleisio stori llawer o bentrefi bach yng Nghymru ac yn dirywio gyda’r oes fodern. Stori fodern gyda stori oesol.