Mae cyfrol ‘ddyfeisgar’ gan Gardi a ddaeth yn ail am y Fedal Ryddiaith yn Nhregaron 2022, wedi ei dewis yn Llyfr y Mis…

Yn ei feirniadaeth ar y Fedal Ryddiaith yn y Brifwyl y llynedd, dywedodd Dylan Iorwerth mai ymgais ‘Mali’ oedd ‘gwaith mwya’ clyfar y gystadleuaeth’.

Iddo ef dyma’r gwaith ‘mwyaf deniadol… cadwyn gron o straeon efo cyfarfyddiadau a chyd-ddigwyddiadau’n cysylltu pob un gan glymu’n dwt ac awgrymog ar y diwedd’.