Mae’r Urdd wedi bod yn gweithio gyda rhai o blant a phobol ifanc Sir Gaerfyrddin sydd wedi dod i sylw’r heddlu neu’r llysoedd, ar gyfer ei sioe a fydd yn digwydd yn yr Eisteddfod yn Llanymddyfri.

Bydd y sioe uchelgeisiol Chwilio’r Chwedl yn cael ei chynnal ar y maes brynhawn Sul cyntaf yr ŵyl, 28 Mai, yn cyflwyno 22 o chwedlau a straeon sy’n gysylltiedig â Sir Gâr.