Gall theatr newid agweddau am yr amgylchedd, yn ôl actores bengoch o Aberystwyth…

Ffars ddwyieithog yn ymdrin â mater difrifol yr argyfwng newid hinsawdd yw Tree, cynhyrchiad sydd ar daith ar hyn o bryd gan gwmni Triongl o Gaerdydd.

Cafodd y cwmni ei sefydlu gan yr actorion Rebecca Smith-Williams, Valmai Jones a Rebecca Knowles tua deng mlynedd yn ôl, a nhw sy’n actio yn y ddrama. Dyma’u trydydd cynhyrchiad.